Mae Llywodraethwr mawr y byd

(Llais y wialen)
Doeth Lywodraethwr mawr y byd,
Sy'n dangos gwên neu ŵg mewn pryd;
  Yn llwybr ei ragluniaeth fawr,
  At bawb o'i blant
      tra ar y llawr.

Pob blinder, a phob cystudd maith,
A'n cyfarwyddo ar ein taith;
  Mewn tawel fodd eu derbyn hwy,
  A ddylem ni heb rwgnach mwy.

Y wialen pan ymwel â ni,
Duw bia'r llaw sy'n ysgwyd hi;
  I brofi gras a gwella bai,
  Ceryddu wna ei ffyddlon rai.

Os gwasgir dafnau chwerwon 'nawr,
I'n cwpan, gan y meddyg mawr;
  Duw a'u bendithio hwy bob un,
  I'n gwneyd ni'n debyg iddo ei hun.
Hymnau a Salmau 1840
           - - - - -

Mae Llywodraethwr mawr y byd
Yn dangos gofal Tad o hyd,
  Yn llwybr ei Ragluniaeth fawr,
  Am bawb o'i blant
      o awr i awr.

Y wialen pan gyrhaeddo ni,
Ein Tad o'r nef a'i henfyn hi;
  I brofi gras, a gwella bai,
  Ceryddu wna ei anwyl rai.

Pob plinder a phob cystudd maith
A'n cyfarfyddo ar ein taith,
  Mewn tawel fodd derbyniwn hwy,
  O'i dadol law,
      heb rwgnach mwy.

Os gwesgir dafnau chwerwon 'nawr
I'n cwpan gan y Meddyg mawr,
  Duw a'u bendithio hwy bob un
  I'n gwneyd yn debyg iddo'i hun.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [MH 8888]: Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)

(The voice of the rod)
'Tis the great, wise Governor of the world,
Who shows a smile or a frown in time;
  In the way of his great providence,
  To all of his children
      while on the earth below.

Every grief, and every great affliction,
Instructs us on our journey;
  In a quiet way of accepting them,
  We ought not to grumble any more.

The rod, when it visits us,
God owns the hand that is wielding it;
  To test grace and correct a fault,
  Reprove he does his faithful ones.

If bitter tears are squeezed now,
Into our cup, but the great physician;
  God will bless them every one,
  To make us like unto him.
 
                 - - - - -

The great Governor of the world
Is showing a Father's care always,
  In the paths of his great Providence
  For all of his children
      from hour to hour.

The rod when it reaches us,
It is our Father from heaven who sends it;
  To prove grace, and correct a fault,
  To chastise his dear ones.

Every vexation and every great affliction
Which meets us on our journey,
  In quiet willingness let us accept them,
  From his fatherly hand,
      with no more grumbling.

If bitter drops are pressed now
Into our cup by the great Physician,
  God is blessing them every one
  To make us like unto himself.
tr. 2008,21 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~