Mae'm Prynwr mawr yn Dduw, yn ddyn, Ac felly'n perthyn imi; Tywysog cadarn, Brenin cry', Yw'r Iesu fu'n fy mhrynu. Mae'n wyn a gwridog yn ddi-lai, Ar ddengmil mae'n rhagori; Nid oedd neb teilwng ond efe Fod yn y ne'n teyrnasu. Mae'n wridog, fe ddioddefodd fry Ar Galfari farwolaeth; Fe'n prynodd trwy ei waed di-nam O ddygn ddamnedigaeth. Pe chwilid fry yn mhlith y sêr, Y byd, a'r dyfnder isod, 'Does neb a fu, na neb y sy, Gyffelyb i fy Mhriod. Mae ynddo ddwfn fôr di-drai O gariad a thosturi; Mae'n barod iawn i faddeu bai Ei briod a'i ddyweddi. Ni feddaf ffrynd, na mam, na thad, A'r cyfryw gariad imi; Mewn culni, gofid, poen, a gwae, Yn wastad mae'n fy ngharu. Pa ddrwg wna'r gelyn i'r rhai hyn, Sy'n ffyddlon ddilyn Iesu? Cant hwy am byth o fewn i'r nef, Oll gyd ag Ef deyrnasu. barod iawn i faddeu bai :: hoffi maddau'n awr i ni Ei briod a'i ddyweddi :: Mae'n addas i deyrnasu
Tonau [MS 8787]: |
My great Redeemer is God, is man, And so relative to me; A firm Prince, a strong King, Is Jesus who did redeem me. He is white and ruddy unfailingly, To ten thousand he is superior; There was noon worthy but he To be in heaven reigning. He is ruddy, he suffered death Up on Calvary; He redeemed us through his innocent blood From dire condemnation. If one sought up among the stars, The world, and the depths below, There is no-one who was, nor any who is, Comparable to my Spouse. In him is a deep unebbing sea Of love and mercy; He is very ready to forgive a the fault Of his spouse and his betrothed. I have no friend, or mother, or father, With such love for me; In straits, grief, pain, and woe, Constantly he is loving me. What evil shall the enemy do to such as these, Who are faithfully following Jesus? They may forever within heaven, All together with Him reign. very ready to forgive the fault :: delighting to forgive us now His spouse and his betrothed :: He is worthy to reign tr. 2016 Richard B Gillion |
|