Mae, mae Yr amser hyfryd yn nesáu Pan gaffo f'enaid ei ryddhau O'm tŷ o glai, fynd tua'm gwlad. Nid yma mae 'ngorffwysfa i - Mae honno fry yn nhŷ fy Nhad. Bob dydd Fy nhabernacl brau o bridd O'i sylfaen yn adfeilio sydd; Nid ydyw amser hwn ym mhell: O f'enaid, cofia hyn bob càm, A meddwl am adeilad gwell. Fry, fry Uwch awyr las, a'i disglair lu Mae holl hyfrydwch f'enaid cu. 'D'oes dim daioni yma i'w gael: 'R wyf wedi gweld a phrofi'r byd - 'D'oes ynddo i gyd ond gwagedd gwael. Parhau Mae cariad Duw i'w annwyl rai: Hwy gânt yn wastad Ei fwynhau Heb achwyn trai yr ochor draw O na bawn gydag Ef yn byw! Fy Mhriod yw: pa bryd y daw? Daw, daw Fy annwyl Iesu, maes o law, I'm cyrchu drwodd i'r wlad draw, I'r bywyd distaw, pur, di-boen: Caf ganu'n llawen gyda'r llu Cân Moses fry, a chân yr Oen. Yr Oen Aeth dan fy mhenyd i a'm poen, Ni thawaf byth amdano â sôn; Ei gariad tirion fydd fy nghân Am iddo f'achub i trwy ras A'm tynnu i maes o'r gynnau dân.1764 Dafydd Jones 1711-77 - - - - - Y mae Yr amser hyfryd yn nesâu Pan gaffo f'enaid ei ryddhau O'm tŷ o glai - fynd tua'm gwlad; Nid yma mae 'ngorphwysfa i, Mae hòno fry yn nhŷ fy Nhad. Fe daw Fy nefol Geidwad maes o law, I'm cyrchu drwodd i'r wlad draw - I'r bywyd distaw, pur, diboen: Caf ganu'n llawen gyda'r llu Cân Moses fry, a chân yr Oen. O doed Yr hyfryd fore goreu 'rioed I'r rhai sy'n dylyn ôl ei droed: Pob ofnau ffoed - darfydded braw; Rho'th gariad im', addfwynaf Oen: Mi garaf son am ddydd a ddaw.Dafydd Jones 1711-77 - - - - - 1,2,3,4,5,6; 1,2,5,3,6. Mae, mae, Yr amser hyfryd yn nesâu, Pan gaffo'm henaid ei ryddhâu, O'm tŷ o glai, fyn'd tu a'm gwlad: Nid yma mae 'ngorffwysfa i, Mae honno frŷ yn nhŷ fy Nhad. Daw, daw, Fy Iesu i'm harwain yn ei law, O'r anial drwg, i'r ardal draw, I'r bywyd dystaw, pur, di-boen: Câf ganu'n llafar gydâ'r llu, Gân Moses fry, a chân yr Oen. Ni ddaw, Na phoen na gofid, och, na braw, I neb o'r saint yr ochr draw, Doent yn ei law, i'r hyfryd wlad: I seinio i drag'wyddoldeb mwy, Am farwol glwy', ac am y gwaed. Gwlad, gwlad, O'r lle 'rwy'n dysgwyl llwyr ryddhâd, O law 'ngelynion, mawr eu brâd, Trwy rinwedd gwaed fy Iesu gwiw; 'Does gelyn mwy a ddaw i'r làn, I'r hyfryd fan, ar fyr câf fyw. Braint, braint, Yw cael cymdeithas gydâ'r saint, Na welodd neb erioed ei maint, Ni ddaw un haint, fyth iddyn' hwy; Y mae'r gymdeithas yma'n gref, Ond yn y nef hi fydd yn fwy. Gwledd, gwledd, O fywyd a thragwyddol hêdd, Sydd yn y byd tu draw i'r bedd; Mor hardd fydd gwedd y dyrfa i gyd Sy'n byw ar haeddiant gwaed yr Oen O sŵn y boen, sy yn y byd.1: 1764 Dafydd Jones 1711-77 2: Grawn-Sypiau Canaan 1805 3: Grawnsypiau Canaan (Cas. Robert Jones) 1795 4: Grawn-Sypiau Canaan 1805 5: John Roberts (Siôn Robert Lewis) 1731-1806 6: Hugh Jones 1749-1825
Tonau [288.888]:
gwelir: |
It is, is The delightful time is near When my soul will be set free From my house of clay, to go to my land. Not here is my resting-place - That is above in my Father's house. Every day My fragile tabernacle of soil From its foundation is decaying; This time is not far off: O my soul, remember this every step, And think on a better building. Up, up Above the blue air, and the shining host Is the whole delight of my dear soul. There is no goodness here to be had: I have seen what the world experiences - There is nothing in it all but abject emptiness. Abiding Is the love of God to his dear ones: They may enjoy Him forever Without tidal grumbling on the far side O that I would live with Him! My Redeemer he is: when will he come? He comes, comes My dear Jesus, at hand, To fetch me through to yonder land, To the quiet, pure, painless life: I may sing joyfully with the host The song of Moses above, and the song of the Lamb. The Lamb Came for my atonement and my grief, I will never stop making mention of him; His tender love will be my song About his saving me through grace And pulling me out of the blazing fire. - - - - - It is, is The delightful time is near When my soul will be free From my house of clay - to go to my land; Not here is my rest, That is above in my Father's house. He is coming My heavenly Saviour presently, To start me through to yonder land - To the quiet, pure, pain-free life: I will be able to sing joyfully with the host The song of Moses above, and the song of the Lamb. O may it come The most delightful morning ever For those who follow his steps: May all fears flee - may terror pass away; Give thy love to me, most gentle Lamb: I love to mention the day to come. - - - - - It is, is The delightful time is drawing near, When my soul gets set free, From my house of clay, to go towards my land: Not here is my resting-place, That is above in my Father's house. Come, come, Will my Jesus to lead me by his hand, From the evil desert, to the region yonder, To the quiet, pure, painless life: I will get to sing aloud with the host, The song of Moses above, and the song of the Lamb. Come not, Shall either grief, woe, or terror, To any of the saints on yonder side, Let them come by his hand, to the delightful land: To sound for an eternity evermore, About a mortal wound, and about the blood. A land, land, From where I am expecting complete freedom, From the hand of enemies, of great treachery, Through the merit of the blood of my worthy Jesus; No enemy shall come up any more, To the delightful place, where shortly I shall get to live. A privilege, privilege, It is to have fellowship with the saints, The extent of which no-one ever saw, No infection shall ever come to them; The fellowship here is strong, But in heaven it shall be greater. A feast, feast, Of life and eternal peace, Which is in the world beyond the grave; How beautiful shall be the condition of all the throng Who are living on the merit of the blood of the Lamb Away from the sound of the pain that is in the world.tr. 2008,20 Richard B Gillion |
|