Mae moroedd o ddoethineb

1,2,3;  1,2,4.
(Crist yn Brophwyd ac arweinydd ei bobl)
Mae moroedd o ddoethineb,
  Oes, ynot, f'Arglwydd mawr;
Annoeth wf fi, ymbiliaf
  Am beth o hono i'lawr,
I'm harwain trwy'r fath anial,
  Y nôs â cholofn dân,
Ac onide nis gallaf
  Fi gerdded cam yn mlaen.

Wyt Brophwyd mawr i arwain
  Dy Eglwys bur fel hyn,
Trwy groesffyrdd hyll, a'i thywys
  I gopa Seion fryn;
I drefnu manna nefol
  Yn lluniaeth i bob un,
Yn ol ei amgylchiadau,
  A'i eisiau ef ei hun.

O dysg fy enaid gwirion
  I deithio'r anial dir,
Rhag myrdd o geimion lwybrau,
  I gadw ar y gwir;
Doethineb i'm cyf'rwyddo
  Fel cafod fwyn o wlith,
Er maint sy am fy rhwydo,
  Na chyfeiliornwyf byth.

Tydi ydyw doethineb
  Y Tad cyn creu y byd,
Ac ynot ymddysgleiria
  Ei holl berffeithiau ynghyd;
Eneinniwyd o'r dechreuad
  I ddodi maes ei glod,
Datguddio yr hyn sydd etto
  Heb ei ddatguddio erioed.
William Williams 1717-91

[Mesur: 7676D]

gwelir: Fy Iesu yw'r prophwyd goleu

(Christ as his people's Prophet and guide)
There are seas of wisdom,
  Yes, in thee, my great Lord;
Unwise am I, I plead
  For something of it below,
To lead me through such a desert,
  By night with a pillar of fire,
Otherwise I cannot
  Walk a step forward.

Thou art a great Prophet to guide
  Thy pure Church thus,
Through horrible cross-ways, and lead her
  To the summit of Zion hill;
To arrange heavenly manna
  As nourishment for every one,
According to his circumstances,
  And his own needs.

O teach my foolish soul
  To travel the desert land,
From a myriad of false paths,
  To keep on the true;
Wisdom to instruct me
  Like a gentle shower of dew,
Despite how many want to ensnare me,
  I shall never stray.

Thou art the wisdom
  Of the Father before the world was created,
And in thee shine
  All his perfections together;
Anointed from the beginning
  To set forth his praise,
To disclose that which has yet
  Never been disclosed.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~