Mae mwynder cnawd a byd yn myned heibio, Diflanna oes fel breuddwyd gwael ei lun; Ond er pob peth sy'n newid ac yn cilio, Tydi, O! Grist, y sydd o hyd yr un. Cymdeithion mwyn, o un i un, ānt ymaith, A'n gado ninnau yn yr anial fyd; Ond ynot Ti y cawn ar hyd yr ymdaith Gydymdaith dwyfol fydd yr un o hyd. Os cyfnewidiol ydyw nwyd a theimlad, Os gwamal ein meddyliau gwibiog ni, Tangnefedd fydd i'r neb a ŵyr dy gariad, Oblegid digyfnewid ydwyt Ti. Ar ben y daith pan fo pererin unig Wrth borth y byd a ddaw, heb gwmni dyn, Dļogel fydd, a'i ran yn fendigedig; Tydi, O! Grist, y sydd o hyd yr un.John Owen Williams (Pedrog) 1853-1932
Tonau [11.10.11.10]: |
The gentleness of flesh and world are passing, Age shall vanish like a bad dream; But although everything is changing and retreating, Thou, O Christ, art always the same. Dear comrades, one by one, go away, And leave us in the desert world; But in Thee we get along the journey A divine travelling together which shall be the same always. If changeable are desire and feeling, If fickle our flitting thoughts, There shall be peace for all who know thy love, Because unchangeable art Thou. At the journey's end when there be a lonely pilgrim At the portal of the world to come, without the company of man, Safe he shall be, and his portion blessed; Thou, O Christ, art always the same.tr. 2017 Richard B Gillion |
|