Mae'n hyfryd meddwl ambell dro, Wrth deithio anial le, Ar ôl ein holl flinderau dwys, Cawn orffwys yn y ne'. Ar fin diffygio gan y daith A lludded maith y lle, Mor hoff yw gwybod - wedi hyn Cawn orffwys yn y ne'. 'N ôl teimlo archoll llawer saeth A phrofedigaeth gref, A dioddef gwres y dydd a'i bwys, Cawn orffwys yn y nef. Mae'n cysur meddwl, pan fo'n dod Len dros ei ŵyddfod Ef, Yn cynnal ei dragwyddol bwys, Cawn orffwys yn y nef. Er colli ein cyfeillion hoff Yn lli Iorddonen gref, Mae'n felys meddwl - eto 'nghyd Cawn gwrddyd yn y nef. Cymhwyser ni drwy'r Ysbryd Glân A'i rasol ddoniau Ef, Nes dyfod fel t'wysennau llawn, Yn aeddfed iawn i'r nef. dioddef gwres :: goddef gwres Nes dyfod :: Nes delom Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855
Tonau [MC 8686]: gwelir: Y noswaith drom bradychwyd Crist |
It is lovely to think from time to time, While travelling a desert place, After all our intense afflictions, We will get rest in heaven. Almost exhausted by the journey And the great fatigue of the place, How pleasing to know - after this We will get rest in heaven. After feeling the gashes of many arrows And strong bereavement, And suffering the heat of the day and its weight, We will get rest in heaven. It is comforting to think, when comes A curtain across His countenance, Withstanding his eternal importance, We will get rest in heaven. Despite losing our cherished friends In the strong flood of Jordan, It is sweet to think - again together We will get to meet in heaven. Let us be fitted through the Holy Spirit And His gracious gifts, Until coming like full ears of grain, To full ripeness in heaven. suffering the heat :: enduring the heat Until coming :: Until we come tr. 2009 Richard B Gillion |
|