Mae'n hyfryd cyfarfod yn nghydgor y plant, Sy'n llawen eu hysbryd, a thyner eu tant, Yn plethu eu lleisiau mewn cydgan mor gref, Am ysgol Sabbothol anwylferch y nef. O bydded yr ysgol Sabbothol o hyd, Yn famaeth i'r ie'nctyd, a bendith i'r byd, Yn famaeth i'r ie'nctyd, a bendith y byd. Mae'r plant a rhieni mewn teimlad ac iaith, Yn cydgyfranogi o ysbryd y gwaith; Mae calon wrth galon, yn curo mor gryf, Ac ysbryd moliannu yn d'od fel y llif. Mewn urddas teyrnasa, anwylferch y nef, Mae'th orsedd yn gadarn a'th faner yn gref: Dyrchafa dy faner at bobloedd o bell, Cei glywed miliynau yn dweyd - henffych well.James Spinther James (Spinther) 1837-1914 Côr y Plant 1875 Tôn: Côr y Plant (William Aubrey Powell) |
It is delightful to meet in the joint-choir of the children, Who have joyful spirits, and tender chords, Weaving their voices in a chorus so strong, About the Sabbath school of the sweetheart of heaven. O may the Sabbath school be always, A nursery for the young, and a blessing to the world, A nursery for the young, and a blessing to the world. The children and parens are in feeling and in language, Partaking together of the spirit of the work; Heart to heart is beating so strongly, And a spirit of praising coming like the floodtide. In dignity will rule, the sweetheart of heaven, Thy throne is firm and thy banner strong: Raise thy banner to peoples from afar, Thou wilt get to hear millions saying - all hail!tr. 2015 Richard B Gillion |
|