Llon'd nefoedd fawr a llon'd y byd
Llon'd nefoedd fawr llon'd bydoedd maith
(Mae'n) llond y nefoedd llond y byd

(Duw yn mhob man)
1,2,(3,4).
Llon'd nefoedd fawr,
    a llon'd y byd,
  Llon'd uffern hefyd yw;
Llon'd tragwyddoldeb
    maith ei hun:
  Diderfyn ydyw Duw.

Mae'n llon'd y gwagle
    yn ddigoll,
  Ei air a'i allu'n un;
Anfeidrol,
    annherfynol Fôd,
  A'i hanfod ynddo'i hun.

Un hunan-fodol
    ydoedd Ef
  Cyn llunio nef na llawr;
Yn nhragwyddoldeb
    pell yn ol,
  Yn Dduw anfeidrol fawr.

Heb ddechreu dyddiau
    iddo'n bod,
  Na diwedd einioes chwaith;
Yn Drindod pur
    mewn Undod bydd
  I dragwyddoldeb maith.
a llon'd y byd :: llon'd bydoedd maith
- - - - -
(Mawredd a gras Duw)
1,(2,3,4,5,6),7,8;  1,3,6,7;  1,2,5,6,8;  1,(2),7;
1,3,2,(4,5,6,7);  1,3,6,7;  1a,1b,2a,3a.
Mae'n llond y nefoedd,
    llond y byd,
  Llond uffern hefyd yw;
Llond tragwyddoldeb maith ei hun,
  Diderfyn ydyw Duw;
Mae'n llond y gwagle
    yn ddi-goll,
  Mae oll yn oll,
      a'i allu'n un,
Anfeidrol, annherfynol Fod
  A'i hanfod ynddo'i hun.

Un hunanfodol ydoedd ef
  Cyn llunio nef na llawr;
Yn nhragwyddoldeb maith yn ol,
  Yn Dduw anfeidrol fawr;
Heb ddechreu dyddiau
    iddo'n bod,
Na diwedd einioes chwaith i ddod,
Tragwyddol a rhyfeddol Fod
  Yn Drindod uniawn drefn.

Anfesuredig yw ei ras,
  Un addas yw i ni;
Ni a welsom ac a glywsom sôn,
  Am droion Un yn Dri:
Ac fel y clywsom, felly mae,
I ninau'n rhyfedd yn parhau,
Yn ddigyfnewid i'w fwynhau,
  Er cymaint
      beiau'r byd.

Ein holl feddyliau, da a drwg,
  Sydd amlwg iddo ef;
A phob uchenaid ddystaw iawn,
  Fe'i clyw, mor llawn a'r llef:
Fe edwyn galon dyn
    heb goll,
  A'i fwriad oll, ofered yw:
Mae'r chwant yn weithred
    cyn ei gwneyd,
  Hawdd d'weyd, yn nghyfrif Duw.

'Does neb, trwy'r
    nefoedd hawddgar, heb
  Ei bresennoldeb rhydd;
Pob angel, seraph, a phob sant,
  A'i gwelant yn ddi gudd:
Mae pob un yno yn ei ŵydd,
Yn canu'n llafar gyda llwydd,
Ac yn mawrhau y siriol swydd
  O foli'r Arglwydd mawr.

Ym ninnau i gyd, trwy'r byd,
    heb ball,
  Hawdd deall yn ngŵydd Duw;
Oll yn ymsymud dan y rhod,
  Yn bod, ac ynddo'n byw;
Nis gallwn wneyd mewn dirgel le,
Un math o fai nas gwel Efe;
Drwy'r byd yn awr, ac yn y ne',
  Mae, wele, ar un waith.

Clyw, f'enaid tlawd, mae gennyt Dad
  Sy'n gweld dy fwriad gwan,
A Brawd yn eiriol yn y nef
  Cyn codi o'th lef i'r lan:
Cred nad diystyr gan dy Dad
  Yw gwrando gwaedd
      dymuniad gwiw,
Pe byddai d'enau yn rhy fud
  I'w dwedyd gerbron Duw.

Pan byddwyf mewn rhyw ddirgel fan,
  Yn griddfan tan y groes,
Bron methu symud, na neshau,
  Gan bwys holl
      feichiau f'oes;
Daw weithiau feddwl i mi fod
  Mab Duw i'm canfod
      ymhob cell,
Ni chaf ddihoeni felly o hyd,
  Ond gwawria bywyd gwell.
Mae'n llon(')d y nefoedd :: Llon'd y nefoedd
felly mae :: fel y mae
a'r llef :: a'n llef
O foli'r :: Wrth foli'r
Ym ninnau :: 'Ry'm ninau
symud, na neshau :: cerdded llawer cwm
bwys :: faich
bwys holl feichiau :: faich rhy drwm yn
ddihoeni :: dd'hoeni

Edward Jones 1761-1836

Tonau [MC 8686]:
New York (Psalms of David 1754)
Stephen's (William Jones 1726-1800)
Tiverton (Jacob Grigg)

Tonau [8686.8886]:
Abernant (<1835)
  Bryn Siriol (Hywel J Edwards)
Cynddelw (J A Lloyd 1815-74)
Foelallt (Fawr) (David Evans 1874-1948)
Maes-y-Plwm (John Hughes 1896-1968)
  Questa Tomba (<1905)
Rotterdam (Strasburger Gesangbuch 1560)
St Samson (John Jenkins, Ffynnon Taf.)

gwelir:
  Clyw f'enaid tlawd mae genyt Dad
  'Does neb drwy nefoedd hawddgar
  Fy enaid tlawd mae genyt Dad
  Un hunanfodol ydoedd Ef

(God in every place)
 
The fullness of the great heavens,
    and the fullness of the world,
  The fullness of hell also is he;
The fullness of long
    eternity itself:
  Endless is God.

He is the fullness of every space
    unfailingly,
  His word and his might as one;
Immeasurable,
    unbounded Being,
  Whose essence is in itself.

A self-existent one
    was He
  Before the fashioning of heaven or earth;
Eternally
    long after,
  A great, immeasurable God.

Without beginning of days
    he is,
  Or end of lifespan either;
A pure Trinity
    in Unity he will be
  To a long eternity.
and the fullness of the world :: the fullness of vast worlds
- - - - -
(The majesty and grace of God)
 
 
He is the fullness of the heavens,
    the fullness of the world,
  The fullness of hell also he is;
The fullness of a vast eternity itself,
  Infinite is God;
He is the fullness of the empty place
    unfailingly,
  He is all in all,
      and his power is the same,
Immeasurable, endless Being
  With his essence in himself.

A self-existent one was he
  Before designing heaven or earth;
In a vast eternity past,
  God, immeasurable great;
Without there being a start
    of days for him,
Nor an end of lifespan either to come,
An eternal and wonderful Being
  A Trinity of right order.

Unmeasured is his grace,
  One appropriate for us;
We have seen and heard mention,
  Of the dealings of One in Three:
And as we have heard, so it is,
A wonder to us continually,
Unchanging to be enjoyed,
  Despite the magnitude
      of the faults of the world.

All our thoughts, good and evil,
  Are evident to him;
And every very silent groan,
  He hears, as fully as the cry:
He knows the heart of a man
    without exception,
  And all his intention, how vain it is:
The desire is an act
    before it is done,
  Easy to say, in God's reckoning.

There is no-one, throughout the
    beautiful heavens, without
  His free presence;
Every angel, seraph, and every saint,
  They see him unconcealed:
Every one there in his sight, is
Singing loudly with happiness,
And magnifying the cheerful office
  Of praising the great Lord.

We all are, throughout the world,
    without fail,
  Easily understanding in the sight of God;
All moving under the sky,
  Being, and in him living;
Nor can we do in a secret place,
Any kind of fault that He does not see;
Through the world now, and in heaven,
  Yes, he sees, at once.

Listen, my poor soul, thou hast a Father
  Who sees thy weak intention,
And a Brother interceding in heaven
  Before thou dost raise thy cry up:
Believe that not disregarded by thy Father
  Is listening to the shout
      of a worthy request,
If thy mouth should be too mute
  To say it before God.

When I am in some secret place,
  Groaning under the cross,
Almost failing to move, or get nearer,
  By the weight of all
      the burdens of my age;
Sometimes the thought comes to me that
  The Son of God can detect me
      in every cell,
I shall not get to languish thus always, 
  But a better life will dawn.
He is the fullness of the heavens :: Fullness of the heavens
::
as the cry :: as our cry
Of praising the :: While praising the
::
move, or get nearer :: walk many a valley
weight :: burden
the weight of all the burdens of :: a burden too heavy in
::

tr. 2010,14 Richard B Gillion

 
 

All heaven and earth are filled with God

Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~