Mae 'nghyfeillion adre'n myned

1,2,(3),4,5;  1+2,3+5.
(Galar ar ol cyfeillion)
Mae 'nghyfeillion adre'n myned,
  O fy mlaen, o un i un,
Gan fy ngadael yn amddifad,
  Fel pererin wrtho'i hun.

Wedi bod yn hir gyd-deithio
  Yn yr anial dyrys, maith,
Gormod iddynt oedd fy ngado
  Bron ar derfyn eitha'r daith.

Wedi diangc uwch gelynion,
  Croesau, a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
  Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.

Byddaf yn dych'mygu, weithiau,
  Fry eu gwel'd yn Salem lân,
Ac y clywaf, ar rai prydiau,
  Adsain odlau pêr eu cân.

Ond mae'r amser bron a dyfod
  Y caf uno gyda hwy,
Yn un peraidd gôr diddarfod,
  Uwch law ofn ymadael mwy.
O fy mlaen :: Draw o'm blaen

Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855

Tonau [8787]:
Alice (Robert Roberts 1863-1941)
Lausanne (H A Caesar Malan 1787-1864)

Tôn [8787D]: Tal-y-Bont (<1876)

(Mourning after friends)
My friends are going home,
  Before me, one by one,
Leaving me destitute,
  Like a pilgrim on his own.

Having been long travelling together
  In the vast, troublesome desert,
Too much for them was leaving me,
  Almost at the extreme end of the journey.

Having escaped above enemies,
  Crosses, and a myriad griefs,
They are now wearing the crown,
  And carrying the green palms.

I will be imagining, sometimes,
  Seeing them above in holy Salem,
And will hear, on some occasions,
  Echoing, the sweet odes of their song.

But the time is almost coming
  When I may unite with them,
In one sweet unfading choir,
  Above any fear of leaving any more.
Before me :: Yonder before me

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~