Mae 'ngobaith, er yn wan, Am ddod i'r lan ryw bryd, At Iesu fry, i Seion fryn, A'm gwisg yn wyn i gyd; I blith y dyrfa fawr Sy'n canu'n awr heb boen, A'u gynau wedi'u cannu'n wyn Yng ngwaed yr addfwyn Oen. [Mae 'ngobaith, er yn wan, Am ddod i'r lan ryw bryd, At Iesu fry i Seion fryn, A'm gwisg yn wỳn i gyd; I wel'd y teilwng Oen, A'i ganmol gyfa'r llu, Ar ben fy nhaith, heb friw na phoen, Yn yr ardaloedd fry.] Er treulio yn y gwaith Ryw oesoedd maith ymlaen, Nid oes dim blino yn eu plith - Melysach fyth yw'r gân; Cân newydd fydd o hyd, Mewn bywyd pur, di-boen, O fawl i Dduw am gariad rhad, A gwerthfawr waed yr Oen. Am ddod :: Gael d'od yn wỳn :: yn wen Priodolwyd gynt i William Lewis -1786-
Tôn [MBD 6686D]: |
My hope, although feeble, is To come up some time, To Jesus above, to Zion hill, With my garments all white - Amongst the great throng, Who are singing now without pain, With their gowns bleached white In the blood of the dear Lamb. [My hope, although feeble, is To come up some time, To Jesus above to Zion hill, With my garments all white; To see the worthy Lamb, And praise him with the throng, At the end of my journey, without bruise or pain, In the regions above.] Despite toiling in the work Some vast ages before, There is nothing that wearies in their midst - The sweetest ever is their song: A new song it shall be always, In a pure, painless life, Of praise to God for free love, And the precious blood of the Lamb. To come :: To get to come :: tr. 2009,14 Richard B Gillion |
|