Mae plant y byd yn holi

Mae plant y byd yn holi,
  Ac yn rhyfeddu'n syn
Pan fwy i'n molianu f'Arglwydd
  'Beth yw'r ynfydrwydd hyn?'
Rhyddhawyd fi o'm caethiwed,
  Ni thawaf ddim a son,
Mi gana yn ngwyneb gwawdwyr
  Am rinwedd gwaed yr Oen.

Mi fu'm yn hir dan gwmwl
  Yn ffaelu canmol Duw,
'Roedd pechod a'i euogrwydd
  O'm mewn fel colyn byw;
Fe dynwyd hwnw ymaith
  Ynghyd a'i bwys a'i boen,
Mi ganaf yn dragywydd
  Am rinwedd gwaed yr Oen.

Mi fu'm dan fynydd Sinai
  Dan ofnau Duw a'i wg,
Heb glywed ond bygythion,
  Taranau, mellt, a mwg;
Ond de's i Sion dawel,
  P'odd gallai dewi a sôn,
Heb ganu yn wastadol
  Am rinwedd gwaed yr Oen.

A pheth pe bawn yn neidio,
  A'i wneyd e gyda pharch,
A chwareu megis Dafydd
  Cyn hyn o flaen yr arch:
Neu'r cloff wrth borth y deml,
  Am hwnw clywsoch sôn,
Pan oedd e'n teimlo iechyd
  A rhinwedd gwaed yr Oen.
Dafydd Jones 1711-77

[Mesur: 7676D]

The children of the world are asking,
  And wondering with surprise
When I am praising my Lord
  "What is this madness?"
I was set free from my captivity,
  I will not be silent and tell,
I will sing in the face of mockers
  About the merit of the blood of the Lamb.

I was for long under a cloud
  Failing to praise God,
There was sin and its guilt
  Within me like a living sting;
He pulled that out
  Together with its weight and its pain,
I will sing in eternity
  About the merit of the blood of the Lamb.

I was under the mountain Sinai
  Under fear of God and his frown,
Without hearing anything but threats,
  Thunder, lightning, and smoke;
But I came to quiet Zion,
  Whatever I could keep quiet from telling,
It excludes telling constantly
  About the merit of the blood of the Lamb.

And whatever, if I would be leaping,
  And doing it with reverence,
And playing like David
  Formerly before the ark:
Or the lame by the gate of the temple,
  About this hear ye tell,
When he was feeling the healing
  And the merit of the blood of the Lamb.
tr. 2014 Richard B Gillion
Men of the world are asking
Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953
Sweet Singers of Wales, 1889.
The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~