Mae pyrth y nef o led y pen, Mi welaf fôr o waed, Lle gallwyf i'r ffeiddiaf ddyn, Yn hollol gael iachad. Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd, Gwrandewir llais y gwan; Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd, Anadla tua'r lan. 'Nawr anfon eirchion aml ri' I mewn i byrth y nef; Gwrandewir pob amddifad gri Yn union ganddo Ef. Myfi anturiaf 'nawr ymlaen, Heb alwad îs y ne', Ond bod haeddiannol angau'r groes Yn ateb yn fy lle. Calfaria fryn yw'r unig sail Adeilaf arno mwy; A gwraidd fy nghysur fyth gaiff fod Mewn dwyfol farwol glwy'. Nis gall ellyllon uffern ddim, Er cymmaint yw eu rhi'; Myrddiynau o weithiau mwy yw pwys Och'neidiau Calfari. Heb alwad îs y :: At orsedd Brenin Ond bod perffeithrwydd mawr y :: Gan bod haeddiannol angau'r Nis gall ellyllon uffern :: Ellyllon uffern nis gall
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
The portals of heaven are open wide, I see a sea of blood, Where I can for the most detestable man Get complete healing. The great throne is now free, To be heard is the voice of the weak; See, rise again, my sorrowful soul, Aspire towards the goal. Now send numerous petitions In through the portals of heaven; To be heard is every destitute cry Directly by Him. I will venture now forwards, Without a call under heaven, But that the great perfection of the cross is Answering in my place. Calvary hill is the only basis I will built on any more; And the root of my comfort forever shall get to be In a divine mortal wound. The demons of hell cannot, Despite how great is their number; Myriads of times greater is the weight Of the groans of Calvary. Without a call under :: To the throne of the King of But that the great perfection ... is :: Since the virtuous death ... is :: tr. 2013,15 Richard B Gillion |
|