Mae'r addfwyn Oen yn awr O fewn i'r nefoedd wen, Mewn gallu a gogoniant mawr Â'r goron ar ei ben. Mae'n haeddu cael y clod A'n holl ufudd-dod ni; Mae'n uwch na'r engyl glân a'r saint Mewn uchel fraint a bri. Dan d'adain, Iesu,'r af, Rhyfelaf yn dy nerth; Ac yn dy law mi ddof i'r lan Drwy ddyrys fannau serth.William Lewis ?-1794 Tôn [MB 6686]: Sarah (William Arnold 1768-1832) |
The gentle Lamb is now Within the blessed heavens, In great might and glory With the crown on his head. He deserves to get the praise And all our obedience; He is higher than the holy angels and the saints In high privilege and esteem. Under thy wing, Jesus, I will go, I will do battle in thy strength; And in thy hand I will come to the shore Through difficult, steep places.tr. 2009 Richard B Gillion |
|