Mae'r afon fawr gerllaw

(Duw Elias)
  Mae'r afon fawr gerllaw,
    Mi welaf frig y dòn,
  Pa fodd 'r antufiaf drwy
    Dymhestlog dònau hon?
O Dduw Elias tyr'd i lawr
I hollti llif yr afon fawr.

  Mae awel oer y bedd
    Yn chwythu er hir brydnawn,
  Fel arwydd amlwg im'
    Fod angeu'n agos iawn;
Nid oes i'w gael,
      ond prawf o'th hedd
A ỳr i ffoi holl ofnau'r bedd.

  Cryfhâ fy egwan ffydd,
    Rwy'n teimlo'i bod yn wan,
  Mi bwysaf ar dy air
    Nes dod o'r tònau i'r lan;
Yr Adgyfodiad mawr ei hun
A'r Bywyd, ydyw Mab y dyn.
Thomas William 1761-1844

Tonau [666688]:
Bryniau Canaan (alaw Gymreig)
Carmel (E Stephen 1822-85)

gwelir: Cryfha fy egwan ffydd

(The God of Elijah)
  The great river is at hand,
    I see the crest of the wave,
  How shall I venture through
    These tempestuous waves?
O God of Elijah, come down
To divide the floodtide of the great river.

  The cold breeze of the grave
    Is blowing since a long afternoon,
  As an obvious sign to me
    That death is very near;
There is nothing to be got,
      but an experience of the peace
To drive to flee all the fears of the grave.

  Strengthen my feeble faith,
    I am feeling that I am weak,
  I lean upon thy word
    Until coming up from the waves;
The great Resurrection himself
And the life, is the Son of man.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~