Mae'r Barnwr wrth y drws yn awr

(Crist — a ymddengys yr ail waith. Heb. 9.28)
Mae'r Barnwr wrth y drws yn awr,
Ar dd'od i farnu
    plant y llawr,
  Yr holl genhedloedd, meirw a byw;
Mae llyfrau llydain
    brawdle'r nef
Ar agor wrth ei amnaid Ef,
  Braidd na chlywn gynsain
      udgorn Duw.

Mae'r Gwr a hoeliwyd ar y pren
Ar eistedd yng nghymmylau'r nen,
  Gawn ddedryd deg
      gan Fab y dyn;
Gŵyr allu pob
    temtasiwn gref
I hudo dyn o lwybrau'r nef,
  Fel ninnau temtiwyd Ef ei Hun.

Dygir ar g'oedd o flaen Mab Mair
Bob meddwl, gweithred, a phob gair,
  Dirgel ac amlwg, drwg a da;
A'r cyfiawn i drag'wyddol hedd;
Ond yr annuwiol warthus wedd
  I donnau'r ysol dân yr â.

Canmoliaeth uwchaf Mab y dyn
Fu gynt yn llwm a thlawd ei Hun
  A roir i'r elusengar sant;
A'r edliw chwerwaf gyd â gwawd,
I'r hwn a wariodd ran y tlawd
  Ar ei gybydd-dod neu ei chwant.
Y Flwyddyn Eglwysig 1843

[Mesur: 888.888]

(Christ - who shall appear a second time. Heb. 9:28)
The Judge is at the door now,
About to come to judge
    the children of the earth,
  All the nations, dead and alive;
The wide books of the
    judgment-seat of heaven are
Open at his nod,
  We almost hear the prelude
      of God's trumpet.

The Man who was nailed on the tree is
Sitting in the clouds of the sky,
  We may get a fair verdict
      from the Son of man;
He knows the power of every
    strong temptation
To lure man from the paths of heaven,
  As we were, he himself was tempted.

Before the Son of Mary
    is to be brought publicly
Every thought, action, and every word,
  Secret and visible, bad and good;
And the righteous to eternal peace;
But the ungodly shameful countenance
  To the waves of the
      consuming fire shall go.

The highest praise of the Son of man,
Who once was naked and poor himself,
  Is to be given to the benevolent saint;
And the bitterest reproach with scorn,
To him who spent the portion of the poor
  On his covetousness or his lust.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~