Mae'r diafol drwy f'oes am daeru nad oes

  Mae'r diafol drwy f'oes,
  am daeru nad oes
Im' ran yn y Meddyg
  caredig, a'i groes;
  Ond dysgwyl y wnâf,
  os cymmorth a gâf;
At Dduw y gwirionedd
  a'i orsedd mi âf.

  Hên Satan y sydd,
  yn d'wedyd bob dydd,
Nas gallaf byth ddyfod
  o 'nhrallod yn rhydd:
  Ond etto 'rwy'n bôd,
  lle mae Duw yn d'ôd
I ollwng y caethion
  yn rhyddion dan 'r rhôd.

  Er dued y'm gwnaed,
  o'm pen hyd fy nhraed,
Mae môdd golchi 'mhechod,
  'rwyn'n gwybod, drwy'r gwaed:
  Ei rinwedd mor fawr,
  a nerthol sy'n awr,
Gall gànu fy enaid
  mor wỳned â'r wawr.

  Rho brofi dy hêdd,
  cyn myned i 'mêdd,
Archwaethu rhyw dammaid,
  neu lymmaid o'r wlêdd,
  I'm dal ar fy nhaith
  yn gryf a di-graith,
Rhag bod yn un gofid
  na gwendid i'r gwaith.

  O dyro i mi ffŷdd,
  yn f'enaid a fydd
Yn gweithio trwy gariad,
  a'i rhediad yn rhŷdd,
  Sef ffŷdd o'r iawn ryw,
  f'o'n dewis Mab Duw,
Yn rhan ac yn noddfa,
  tra b'wyf yma'n byw.

  O ganol y llu,
  sydd ar y ffordd ddu,
Yr Arglwydd a'm tỳnodd,
  fe'm dygodd i'w dŷ:
  Gall ddweyd wrthyf fi,
  hyd yma'r âi di,
Mi'th wnâf yn wâs belach
  cymmwysach imi.
Hymnau ar amryw Destynau ac Achosion 1820
Casgliad Edward Jones 1761-1836

[Mesur: 5556D]

  The devil througout my life is
  insistent that I have
No part in the loving
  Physician, and his cross;
  But expect I do,
  if help I shall get;
To the God of truth
  and his throne I shall come.

  Old Satan is,
  saying every day,
I shall never be able to come
  from my affliction free:
  But still I am being,
  where God is coming
To release the captives
  free under the sky.

  Although so black I am found,
  from my head to my feet,
There is a means to wash my sins,
  I know, through the blood:
  His merit which is now
  so great and strong,
Can bleach my soul
  so white as the dawn.

  Give an experience of thy peace,
  before I go to my grave,
To relish some morsel,
  or sip from the feast,
  To keep me on my journey
  strong and without a scar,
Lest there be any grief
  or weakness to the work.

  O give me faith,
  in my soul which shall
Work through love,
  with a free course,
  That is faith of the correct sort,
  that the Son of God be choosing,
As a portion and a refuge,
  while ever I am living here.

  From the midst of the throng,
  that is on the black road,
'Tis the Lord who pulled me,
  who drew me to his house:
  He can say to me,
  thus far thou hast come,
I will make thee henceforth a more
  qualified servant to me.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~