Mae'r dydd yn dod y cenir clod

Mae'r dydd yn dod
    y cenir clod
  Yr Iesu mawr yn unig;
Daw angeu'r groes
    yn uwch bob oes
  Yn serch y rhai cadwedig:

    Pob llwyth ac iaith
        trwy'r ddaear faith
      Cyn hir a gydfoliannant
    Yr Iesu glân - a dyna'r gân
      Tragwyddol gôr gogoniant.

Boreuddydd gwiw Efengyl Duw
  Sy'n lliwio pen y bryniau;
Diflanu mae pob loes a gwae
  Yn sŵn y Nef ganiadau.

Byddinoedd Gras sydd ar y maes
  Dan faner wen Trugaredd:
Trwy nerth y gâd
    fe droir pob gwlad
  Yn eiddo Duw o'r diwedd.

Daw, daw y dydd y rhoir yn rhydd
  Holl garcharorion pechod;
Eilunod byd sy'n mynd o hyd
  I'r wâdd ac i'r ystlumod.
M C Morris
Caniedydd yr Ysgol Sul 1899

Tôn [MSD 8787D]: Mae'r Dydd yn Dod (Juanita Jones)

The day is coming
    when to be sung are the praises
  Of the great Jesus alone;
The death of the cross shall become
    above every age
  The affection of the saved ones:

    Every tribe and language
        throughout the vast earth
      Before long shall join in the praise
    Of holy Jesus - and that is the song
      Of the eternal choir of glory.

The worthy morn of the day
    of the Gospel of God
  Is colouring the head of the hills;
Disappearing is every pang and woe
  In the sound of Heaven's songs.

The armies of Grace and on the field
  Under the white flag of Mercy:
Through the strength of the regiment
    every land is to be turned
  Into the property of God in the end.

Come, come the day when to be set free are
  All the prisoners of sin;
A world's idols are going 
  To the mole and to the bats.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~