Mae'r efengyl fwyn yn curo, Ac yn codi baner gras, Mewn rhyw filoedd o ardaloedd, Ar y mynydd, yn y maes; Y mae llef, bur y nef, Yn cyhoeddi ei haeddiant ef. Deuwch, hil syrthiedig Adda, Daeth y Jubil fawr o hedd: Galwad sydd ar bawb o'r enw I fwynhau tragwyddol wledd; Bwrdd yn llawn, yma gawn, O foreuddydd hyd brydnawn. - - - - - Mae'r efengyl wen yn curo, Ac yn codi baner gras, Mewn rhyw filoedd o ardaloedd, Ar y mynydd, yn y maes; Y mae llef bur y nef, Yn cyhoeddi ei haeddiant Ef. Mi debygwn gwelai'r boreu, Haul yn codi oddi draw, Iachawdwriaeth rad yn nesu, Hedd a phardwn yn ei llaw; Mae y wawr, hyfryd awr, Bron a thori dros y llawr.William Williams 1717-91
Tonau [8787.337]: gwelir: Deuwch hil syrthiedig Adda Dewch i'r frwydyr dewch yn eon Mi debygwn gwelai'r bore |
The blessed gospel is knocking, And raising a banner of grace, In some thousands of regions, On the mountain, in the field; There is a cry, heaven pure, Announcing his merit. Come, descendants of fallen Adam, The great Jubilee of peace has come: There is a call on everyone of the name To enjoy an eternal feast; A full table, here we may have, From morning until evening. - - - - - The blessed gospel is knocking, And raising a banner of grace, In some thousands of regions, On the mountain, in the field; The pure cry of heaven is, Publishing His merit. I suppose I shall see the morning, A sun rising from yonder, Free salvation approaching, Peace and pardon in his hand; The dawn is, delightful hour, Almost breaking across the earth.tr. 2010,17 Richard B Gillion |
|