Mae'r gair yn bur, a'r ddeddf yn lân, A Duw ei hun yn ysol dân; A ninau'n euog ger ei fron, Heb nodded ar y ddaear hon. Ond yn y tywydd garw hyn, Mae golwg ar Galfaria fryn, A'r aberth fu yno un prydnawn, Yn dwyn tawelwch hyfryd iawn. Mae yn y gwaed rinweddau gwiw, I olchi'm henaid du ei liw; A phrawf o rin maddeuol ras, A gliria'm holl euogrwydd cas. Pan gaf fy ngwneyd yn berffaith lân, Perffaith pryd hyny fydd fy nghân; Caf roddi'r goron byth ar ben Yr hwn a'm prynodd ar y pren. James Hughes (Iago Trichrug) 1779-1844
Tonau [MH 8888]: |
The word is pure, and the law is holy, And God himself a consuming fire; And we guilty before him, Without protection on this earth. But in this rough weather, There is a view over Calvary hill, And the sacrifice which was there one afternoon, Bringing very delightful stillness. In the blood there are worthy merits, To wash my soul of a black colour; And an experience of the merit of forgiving grace, Shall clear all my hated guilt. When I get made perfectly clean, Perfect at that time will be my song; I may get to put the crown forever on the head Of him who redeemed me on the tree. tr. 2015 Richard B Gillion |
|