Mae'r nefoedd faith uwchben

  Mae'r nefoedd faith uwchben
  Yn datgan mawredd Duw,
Mae'r haul a'r lloer a'r sêr i gyd
  Yn dweud mai rhyfedd yw.

  Fe draetha dydd i ddydd
  A nos i nos o hyd
Ymhob rhyw iaith, ymhob rhyw le,
  Am Grëwr doeth y byd.

  Ond yn ei gyfraith lân
  Fe'i dengys Duw ei hun
Yn Dduw mewn cymod drwy ei Fab
  A gwael, golledig ddyn.

  O boed fy ngeiriau oll
  A'm calon, O fy Nuw,
Yn gymeradwy ger dy fron
  Tra bwy'n y byd yn byw.
bwy'n y byd yn byw :: yn y byd yn byw

Evan Griffiths (Ieuan Ebblig) 1795-1873

Tonau [MB 6686]:
    Arfryn (W J Evans 1866-1947)
    Joan (1912 T Ll Jenkins)
    St Michael (Salmydd Genefa 1551)
    Silchester (Caesar Malan 1787-1864)

  The vast heavens above are
  Declaring the greatness of God,
The sun and the moon and the stars are all
  Saying that he is wonderful.

  Day to day expounds
  And night to night continues
In every language, in every place,
  About the wise Creator of the world.

  But in the holy law
  God shows himself
As God in reconciliation through his Son
  With wretched, lost man.

  O may all my words
  And my heart, O my God,
Be acceptable before thee
  As long as I am in the world alive.
I am in the world living :: living in the world

tr. 2008 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~