Mae'r nefoedd ynghlo Oddi wrthyf ers tro, Di guddiaist dy wynepryd, F'Anwylyd, do, do. Mae 'fynydd tua'r nen Gymylau uwchben; 'N awr rhyngof fi beunydd A'm Llywydd mae llen. Lle anial yw'm gwlad, P'odd bydda' i byw, 'Nhad? Cans tlawd yw fy annedd Heb rinwedd dy wa'd. Mae 'nghalon i'n friw, Mewn syched 'r wy'n byw Am yfed o'r dyfroedd Sy'n nefoedd fy Nuw. O! Arglwydd, fy Naf, Bryd, dywed, y caf Weld gwedd dy wynepryd, Haul hyfryd yr haf? Cof gennyf fi'r pryd Y buom ni 'nghyd Yn rhodio mewn cariad Uwch cyrraedd y byd. Tyrd, sathra di'r llu Uffernol rai sy Yn atal fy enaid Rhag hedeg fry, fry. Hiraethu 'r wy'n brudd Am fwy-fwy o ffydd, A gallu i wrthsefyll Ac ennill y dydd. Fy enaid dan wae, Mewn syched y mae Drachefen am brofi Dy hedd, a'th fwynhau. Duw ffyddlon erio'd Y credais dy fod, Dy heddwch fel afon Yn dirion im dod.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 [Mesur: 5565] |
Heaven has been locked Away from me for a some time, Thou didst hide thy countenance, My Beloved, yes, yes. Up to the sky are The clouds overhead; Now between me daily And my Leader is a curtain. A desert place is my land, Wherever shall I live, my Father? Since poor is my dwelling Without the merit of thy blood. My heart is bruised, In thirst I am living To drink from the waters Which are in my God's heaven. O Lord, my Master, When, tell, shall I get To see the face of thy countenance, The delightful sun of the summer? I remember the time when We were together Walking in love Above the reach of the world. Come, trample thou the hellish Host of those who are Preventing my soul From flying up, up. Longing I am sadly For more and more faith, And the power to withstand And to win the day. My soul under woe, Is in thirst Again to experience Thy peace, and to enjoy thee. God ever faithful I believed thou art, Thy peace like a river Tenderly coming to me.tr. 2019 Richard B Gillion |
|