Mae'r pyrth yn agor dyma'r dydd

(Hiraeth am brofi mwy o gariad Crist)
Mae'r pyrth yn agor, dyma'r dydd,
I'r rhai tlawd yn noethion sydd,
  Mae gwisgoedd i bob un;
A brynodd Iesu a'i brïod waed,
A hoelion dur,
    drwy'i ddwylo a'i draed
  Darfydded sôn am ddyn.

Caed y llïeiniau yn y bedd,
Fe adgyfododd Brenin hêdd,
  Gan gonc'ro angeu'i hun:
Mewn cwmwl gwyn esgynodd ef,
Mae'n awr yn eiriol yn y nef,
  Darfydded sôn am ddyn.

O Iesu byw, Iachawdwr byd,
Dŵg fi'n glau, i'th fynwes glyd,
  'Gael prawf o'th gariad cu:
Sydd well na'r gwîn, i'm henaid gwan,
Am hyn 'rwy'n daer, am gael d'od dan
  Dy dirion aden di.

Dy gariad dwys yn f'enaid dod,
Ac ynddo fyth gâd imi fod,
  I ganu'th glod 'n glau:
Nes gado'n dêg yr anial dir,
A myn'd i mewn i Salem glir,
  O'm gofid, ac o'm gwae.

Rhyfeddol rîn, arfaethol ras,
I'm Iesu gofio
    un mor gas,
  A'm dwyn o'r pydew prudd;
Dros f'enaid bach dyoddefodd boen,
Gan roddi iawn i'm hanwyl Ion;
  Ce's innau fyn'd yn rhydd.

O wynfydedig ddedwydd awr,
Ddysgleirwen wir, O hyfryd wawr!
  Caf esgyn uwch y nen:
Gorphwysfa lân, trag'wyddol wledd,
Gaf fi fwynhau mewn dinas hedd:
  Boed hyn ar frys, Amen.
William Williams 1717-91

[Mesur: 886D]

gwelir:
  Fe adgyfododd Brenin hedd
  O Iesu byw/gwiw Iachawdwr byd
  Yn Eden cofiaf hyny byth

(Longing to experience more of the love of Christ)
The portals are open, this is the day,
For the poor who are naked,
  There are garments for every one;
Which Jesus bought with his own blood,
With steel nails,
    through his hands and his feet
  Let mention of man vanish.

The linen cloths were found in the grave,
The King of peace rose again,
  Conquering death itself:
In a white cloud he ascended,
He is now interceding in heaven,
  Let mention of man vanish.

O living Jesus, Saviour of the world,
Bring me quickly, to thy secure bosom,
  To get an experience of thy dear ove:
Which is better than wine, to my weak soul,
Therefore I am intent, on coming under
  Thy tender wing.

Thy intense love put in my soul,
And in it forever let me be,
  To sing thy praise readily:
Until leaving completely the desert land,
And going in to the clear Salem,
  From my grief, and from my woe. 

A wonderful virtue, predestined grace,
For my Jesus to remember
    one so detestable,
  And bring me from the sad pit;
For my little soul he suffered pain,
By giving a ransom to my beloved Lord;
  I got to go free.

O blessed, happy hour,
Truly brilliant, O delightful dawn!
  I get to ascend above the sky:
A holy resting-place, an eternal feast,
I get to enjoy in a city of peace:
  May this be soon, Amen.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~