Mae rhai yn arfer ofer wŷn

(Y drwg o gablu Duw, a difenwi dyn.)
Mae rhai yn arfer ofer wŷn,
Gan gablu Duw, difenwi dŷn;
  Merwino'r glust a briwo bron
  Wna'r fath uffernol iaith â hon.

Difyrwch rhai yn adrodd sydd,
Ganiadau ofer hyd y dydd:
  O'm calon llwyr ffieiddio 'rwy'
  Bob pryd, eu hynfyd arfer hwy.

Arferion diras
    plant y fall
Yw hudo, llithio'r naill y llall;
  I mi'r hyfrydwch mwyaf fo
  Ymddyddan am y nefol fro.

    Gan hyny -

Erfyniaf nerth
    tra byddwyf byw
I anrhyddedu enw Duw;
  A gweled ei ogoniant gwîr,
  O fewn ardaloedd nefol dîr.

Duw cyfarwydd fi â'th râs,
I ochell fyrdd annuwiol câs;
  Fel na chartrefwyf gyda'r llu,
  Sydd obry'n cablu d'enw cu.
Duw cyfarwydd :: Duw cyfarwydda

Caniadau Duwiol i Ieuenctid Cymru 1815

[Mesur: MH 8888]

gwelir: Duw cyfarwydd fi â'th râs

(The evil of blaspheming God, and disparaging man.)
Some are used to empty complaining,
While blaspheming God, disparaging man;
  Itching the ear and bruising a breast
  Does such infernal language as this.

The delight of some is
Vain songs all day long:
  From my heart I wholly detesting I am
  Every time, their foolish practice.

The wicked practices
    of the children of the pestilence
Are to entice, seduce the one the other;
  For me the greatest delight be
  Taking delight in the heavenly region.

    Therefore -

I will petition for strength
   while ever I live
To honour the name of God;
  And to see his true glory,
  Within the districts of a heavenly land.

God, acquaint me with thy grace,
To shun the ungodly, detestable ways;
  That I make not my home with the host,
  Who are below blaspheming thy dear name.
::

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~