1a. Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau, Iesu, yn dy farwol glwy'; Trwy dy loes, dy gur, a'th angeu, Caed trysorau fwy na mwy; Nis gall cerub byth, na seraph, Lawn fynegu gwerth yr Iawn Roddwyd drosom gan Gyfryngwr Ar Galfaria un prydnawn. [1b. Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau, Iesu, yn dy farwol glwy'; Ac yn swm y gair Gorphenwyd, Mae trysorau fwy na mwy; Nid all Cerub, nid all Seraph, Byth fynegu gwerth yr Iawn, Roddaist drosom i gyfiawnder Ar Galfaria un prydnhawn.] 2. Pwy all fesur maint ei gariad A rhinweddau maith ei ras? Nid angylion, er eu doniau, Na holl seintiau daear lâs: Môr didrai, heb waelod iddo, Sydd yn chwyddo byth i'r lan; Nofia miloedd ynddo'n hyfryd Draw i'r bywyd yn y man.Daniel Jones 1788?-1848
Tonau [8787D]: gwelir: Iesu pwy all draethu'th gariad? |
1a. There are some myriad of wonders, Jesus in thy mortal wound; Through thy anguish, thy beating, and thy death, Let treasures be got more than more; No cherub can ever, nor a seraph, Fully express the worth of the Ransom Given for us by the Mediator On Calvary one afternoon. [1b. There are some myriad of wonders, Jesus in thy mortal wound; And in the sum of the word "It is finished", There are treasures more than more; No Cherub can, no Seraph can, Ever express the worth of the Ransom Thou gavest for us to be justified On Calvary one afternoon.] 2. Who can measure the extent of his love And the vast virtues of his grace? Not angels, despite their talents, Nor all the saints of blue-green earth: An unebbing sea, with no bottom to it Is swelling up forever; Thousands shall swim in it delightfully Yonder to the life soon.tr. 2015 Richard B Gillion |
|