Mae'th gariad Arglwydd yn parâu, Fel moroedd mawrion yn ddidrai; At bechaduriaid gwael y llawr, Sydd yma yn y cystudd mawr. Mae môr o haeddiant Crist a'i râs, Yn golchi ffwrdd fy mhechod câs; Fy ngolchi caf yn berffaith wỳn, Trwy rinwedd môr Calfaria fryn. Mewn môr o groesau 'nawr rwy'n byw, A thônau geirwon o bob rhyw; 'Rwy'n fynych ofni im' 'rhyw ddydd, I wneud llon-ddrylliad o fy ffydd. Mae môr o wynfyd pur didrai, I'r seintiau uchod yn parâu; Gwyn fyd na b'awn i yno'n awr, Yn nofio yn y moroedd mawr.Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840 [Mesur: MH 8888] |
Thy love, Lord, is enduring, Like great seas unebbing; Toward base sinners of the earth, Who are here in the great tribulation. The sea of the merit of Christ and his grace, is Washing away my detestable sin; I get washed perfectly white, Through the merit of the sea of Calvary hill. In a sea of crosses now I am living, And rough waves of every kind; I am often fearing I shall some day, Make a ship-wreck of my faith. There is a sea of pure, unebbing bliss, For the saints above continuing; How blessed if I could be there now, Swimming in the great seas.tr. 2016 Richard B Gillion |
|