Mae torf o waredigion A'u gwisgoedd oll yn lān, Ar uchelderau Seion, Yn beraidd iawn eu cān; Ond er y rhif a olchwyd, Sydd yn y nef yn awr, Mae'r ffynon yn ei rhinwedd Yn ngwlad y cystudd mawr. Mae cwmwl mawr o dystion Yn iach yr ochr draw, Y rhai fu yma'n ffyddlon Yn myd y poen a'r braw; Yn ol eu traed dilynwn, Trwy 'n holl flinderau maith, Ar air ein Harglwydd pwyswn Nes dod i ben y daith. Er myn'd trwy'r tān a'r dyfroedd, Medd gair ein Iesu glān, Ni'th foddir yn y moroedd, Ni'th losgir yn y tān: Rhydd gyflawn waredigaeth I'w eiddo cyn bo hir, Cant seinio, Iachawdwriaeth, O fewn y nefol dir. Y rhai fu yma'n :: I'n Harglwydd fu yn Trwy 'n holl :: Trwy dir y
Tonau [7676D]: |
There is a crowd of delivered ones With their garments all clean, On the heights of Zion, Their song very sweet; But although the number that were washed, Who are in heaven now, The fountain in its merit is In the land of the great tribulation. There is a great cloud of witnesses Safe on yonder side, Those who were here faithful In the world of pain and terror; After their feet let us follow, Through all our vast afflictions, On the word of our Lord let us lean Until coming to our journey's end. Although going through the fire and the waters, The word of our holy Jesus tells us Thou shalt not be drowned in the seas, Nor burned in the fire: He will give full deliverance To his own before long, They shall get to sound, Salvation, Within the heavenly land. Those who were here :: Who to our Lord were Through all our :: Through the land of the tr. 2019 Richard B Gillion |
|