Mae t'w'llwch a chymylau'n toi Dybenion doeth ein Rhi; A dirgel rôd mewn rhôd yn troi, Uwchlaw ein deall ni. Ond er myn'd heibio yn y tân, Y gwynt a'r ddaear-gryn, Fe glyw ei blant ei ddystaw lef Yn traethu hedd, er hyn. Y tew gymylau duon sydd Yn awr yn toi y nen, Yn lle ystorm, dyhidlo wnant Wlith bendith ar eu pen. Am hyn nac ofnant unrhyw bryd, Er maint eu blinfyd mwy; Drwy'r rhagluniaethau chwerwaf oll Mae'n gwenu arnynt hwy. nac ofnant :: nid ofnant Cas. o dros Ddwy Fil o Hymnau (S Roberts) 1841
Tonau [MC 8686]: gwelir: Mor ddirgel ydyw ffyrdd ein Iôr |
Darkness and clouds are roofing The wise aims of our Lord; And a secret sky in a sky turning, Above our understanding. But despite passing through the fire, The wind and the earthquake, His children hear his quiet cry Expounding peace, despite this. The thick, black clouds are Now roofing the sky, In the place of a storm, distil they do The dew of blessing on their head. Therefore they will not fear any time, Despite the extent of their tribulation henceforth; Through the bitterest providences of all He is smiling upon them. :: tr. 2015 Richard B Gillion |
|