Mae tyrfa'r gwaredigion

(Gwynfyd y Nef)
Mae tyrfa'r gwaredigion
  Yn y nef,
Yng nghwmni glân angylion
  Yn y nef,
Yn rhyddion oll o'u rhwymau,
Yn gannaid iawn eu gynau,
Ynganol rhyfeddodau
  Nef y nef;
Mae llawer o drigfannau
  Yn y nef.

Nid oes dim rhifo amser
  Yn y nef;
Na neb dan bwys gorthrymder
  Yn y nef:
Mae bawb o dan eu coron
Yng nghôr y telynorion,
Yn moli Brenin Seion,
  Yn y nef; -
A phawb yn bur o galon
  Yn y nef.
W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938

Tôn [7373.777373]: Gorof (T Hopkin Evans 1879-1940)

(The Blessedness of Heaven)
There is a throng of the delivered
  In heaven,
In the company of holy angels
  In heaven,
All free from their bonds,
Very white their robes,
In the midst of wonders
  In heaven;
There are many dwellings
  In heaven.

There is no counting of time
  In heaven;
Nor anyone under the weight of affliction
  In heaven:
All are under their crown
In the choir of the harpists,
Praising the King of Zion,
  In heaven; -
And all pure of heart
  In heaven.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~