Mae weithiau dew gymylau

(Pob peth er daioni)
Mae weithiau dew gymylau
  Yn cuddio haul y nen,
A disgyn oerion ddafnau
  Drwy'r t'wyllwch ar ein pen,
Ond eilwaith daw goleuni
  Am fod ein Tad yn fyw;
Mae pobpeth er daioni
  I'r rhai sy'n caru Duw.

Er garwed yw'r tymhestloedd,
  Er dyfned yw y dòn,
Mae'm Ceidwad yn y nefoedd,
  A'i heddwch dan fy mron;
Nid ydwyf mwy yn ofni
  Y saeth o farwol ryw,
Mae pobpeth er daioni
  I'r rhai sy'n caru Duw.

Yn Nuw yr ymddiriedaf,
  Er pob cyfnewid fydd,
Gall droi y nos dywyllaf
  Yn hyfryd oleu ddydd;
Er fod y llif i'w groesi,
  Mae'r plant tu draw yn fyw,
A phobpeth er daioni
  I'r rhai sy'n caru Duw.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937

Tonau [7676D]:
Babel (alaw Cymreig/Seisnig)
Bala (Rowland H Prichard 1811-87)
Mannheim (Hans L Hassler 1561-1612)

(Everything for good)
Sometimes thick clouds are
  Hiding the sun of the sky,
And cold drops fall
  Through the darkness on our head,
But again the light comes
  That our Father is alive;
Everything is for good
  For those who love God.

Despite the roughness of the tempests,
  Despite the depth of the wave,
My Saviour is in heaven,
  And his peace under my breast;
I shall no longer fear
  The arrow of a mortal kind,
Everything is for good
  For those who love God.

In God I shall trust,
  Despite every change that shall be,
The darkest night may turn
  Into the delightful light of day;
Although there is a floodtide to cross,
  The children yonder are alive,
And everything for good
  For those who love God.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~