Mae yn y gair oleuni glân, O f'enaid! cân amdano! I'r euog yn yr anial fyd, Wel'd noddfa glŷd i ymguddio. Gwna imi gerdded mwy bob càm, Gan feddwl am D'orch'mynion; Boed ynddynt hwy fy serch a'm blŷs, O wir ewyllys calon. Tangnefedd Duw, fel afon gref O orsedd nef yn llifo, A fydd i'r sawl a garo'r gwir, Gan rodio'n gywir ynddo. I weld lle clyd i 'mguddio
Tonau [MS 8787]: |
There is in the word holy light, O my soul, sing about it! For the guilty in the desert world, See a secure refuge to hide oneself. Make me walk more every step, While thinking about thy commandments; May my affection and my pleasure be From the true will of the heart. The peace of God, like a strong river From the throne o heaven flowing, Shall be to those who love the truth, While walking truly in it. To see a secure place to hide oneself tr. 2019 Richard B Gillion |
|