Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth

1,(2).
(Y Messïah mawr)
Mawr oedd Iesu yn yr arfaeth,
  Mawr yn y cyfammod hedd;
Mawr yn Methle'm a Chalfaria,
  Mawr yn adgyfodi o'r bedd;
Mawr a fydd, Ef rhyw ddydd,
Pan ddel Sîon oll yn rhydd.

Dyma gyfaill haeddai'i garu,
  A'i glodfori'n fwy nag un,
Prynu'n bywyd, talu'n dyled,
  A'n glanhau â'i waed ei hun;
Frodyr dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch.
1: Casgliad o Bum Cant o Hymnau (D Jones) 1810
priodolwyd i
Titus Lewis 1773-1811   neu   Thomas Lewis 1759-1842

2: Dafydd Jones 1711-77

Tonau [8787337]:
Geneva (Coral Ellmynig / J Goss)
Holstein (J S Bach 1685-1750)

gwelir:
  Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb
  Wele cawsom y Messia

(The great Messiah)
Great was Jesus in the plan,
  Great in the covenant of peace;
Great in Bethlehem and Calvary,
  Great in rising from the grave;
Great shall be, He some day,
When Zion all becomes free.

Here is a friend who deserves to be loved,
  And extolled more than any,
Purchasing our life, paying our debt,
  And cleansing us with his own blood;
Brothers come, rejoice,
Give thanks to him, never be silent.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~