Mawr wyt ein Tad tragwyddol Fod

(Agoriad Addoldy)
Mawr wyt, ein Tad, tragwyddol Fod,
Seraphiaid glân sy'n seinio'th glod;
  Cymysgwn ninau yn dy dŷ,
  Ein cân â chân angelion fry.

O tyred Arglwydd Iôr i'n plith,
Gorchuddia'th Fynydd hwn â'th wlith;
  Cysegra di y babell hon,
  A'th bresenoldeb ger ein bron.

Boed gwir ogoniant fyth ar gân,
I'r Tad, a'r Mab,
    a'r Ysbryd Glân;
  I'r Tri yn Un Tragwyddol Dduw,
  Cydroddwn fawl -
      ein dyled yw.
Mr Richard Jones, Lerpwl.
Hymnau a Salmau 1840

[Mesur: MH 8888]

(The opening of a place of worship)
Great art thou, our Father, eternal Being,
Holy seraphim are sounding thy praise;
  We also mix in thy house,
  Our song with the song of angels above.

O come Sovereign Lord amongst us,
Cover this thy Mountain with thy dew;
  Consecrate thou this tent,
  With thy presence before us.

May true glory be forever in song,
To the Father, and the Son,
    and the Holy Spirit;
  To the Three in One Eternal God,
  Let us render praise together -
      our duty it is.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~