Mawr y gwelir Duw'n ei gyfraith

(Salm CXLV. 3 - Rhan III)
Mawr y gwelir Duw'n ei gyfraith,
A'i gofynion cyfiawn perffaith;
  Deil feddyliau dirgel dynion,
  Y dirgela o fewn y galon.

Yn 'r efengyl gwela'i fawredd!
Mawr o gariad a thrugaredd;
  A thrwy fawr ddoethineb eglur,
  Codi, a chadw, gwael bechadur.

Mawr y'mhob man, mawr ryfeddol!
Ond y'ngolwg dyn anianol;
  Mawr amynedd Duw'n ei arbed,
  Achos galar,
      na fae'n gweled!

Hyfryd waith y Côr nefolaidd,
Ydyw edrych ar ei fawredd;
  Bwrw i lawr goronau beunydd,
  A dwëyd bob awr,
      mai mawr yw'r Arglwydd.
Thomas Williams 1772-, Rhes-y-cae.
Cas. o dros 760 o Hymnau (D Jones) 1826

[Mesur: 8888]

gwelir:
  Rhan I - Mawr yw'r Argwydd mawr a rhyfedd
  Rhan II - Trefn y rhôd a geir yn rhedeg
  Rhan III - Mawredd Duw nid oes ei debyg

(Psalm 145:3 - Part 3)
Great is God to be seen in his law,
And its righteous, perfect demands;
  He holds the secret thoughts of men,
  The most secret within the heart.

In the gospel see his greatness!
Great of love and mercy;
  And through great, clear wisdom,
  Raising, and keeping, a base sinner.

Great in every place, greatly wonderful!
But in the sight of a natural man;
  The great patience of God in saving him,
  A cause of lamenting,
      that he should see him!

The delightful work of the heavenly Choir,
Is to look upon his greatness;
  To cast down crowns daily,
  And say every hour,
      that great is the Lord.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~