Mawr yw'r Arglwydd mawr a rhyfedd

(Mawredd yr Arglwydd yn anchwiliadwy -
Salm CXLV. 3 - Rhan I)
Mawr yw'r Arglwydd mawr a rhyfedd;
Anchwiliadwy yw ei fawredd;
  Ni bu, nid oes,
      ni ddaw mewn un man,
  Neb a all ei chwilio allan.

Pob creadur mawr a bychan,
Am ei fawredd ef a ddatgan;
  Dwëyd mewn ystur fel lleferydd,
  Gwelwch 'n awr, un mawr yw'r Arglwydd.

Y tîr, a'i ffwyth, a'i anifeiliaid,
Tonnau'r môr, a'i bysg,
    a'i 'mlusgiaid;
  Ehediad y ffurfafen hefyd,
  Am e fawredd yn cyd ddywedyd.

Haul, a lloer, a sêr yn siriol,
Ddengus glôd rhyw Fôd anfeidrol;
  Wnaeth ei hunan y rhai hyny,
  Wrth ei 'w'llys doeth a'i allu.
Thomas Williams 1772-, Rhes-y-cae.
Casgliad o Bum Cant o Hymnau (D Jones) 1810

[Mesur: MH 8888]

gwelir:
  Rhan II - Trefn y rhôd a geir yn rhedeg
  Rhan III - Mawredd Duw nid oes ei debyg
  Rhan III - Mawr y gwelir Duw'n ei gyfraith

(The greatness of the Lord as unsearchable -
Psalm 145:3 - Part 1)
Great is the Lord, great and wonderful;
Unsearchable is his greatness;
  There has not been, there is not,
      there will not be in any place,
  Anyone who can search it out.

Every creature great and small,
About his greatness does express;
  Saying in reason like speech,
  Look now, a great one is the Lord.

The land, and its fruit, and its animals,
The waves of the sea, and its fish,
    and its reptiles;
  The flyer of the firmament also,
  About his greatness telling in chorus.

Sun, and moon, an stars cheerfully,
Show the acclaim of some infinite Being;
  He did himself make these,
  By his wise will and his power.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~