Mawr yw'r hiraeth sy'n fy nghalon Am y dyddiau dd'od i ben; Pan y b'o 'r efengyl dirion Yn amgylchu'r ddaearen: Gras fy Iôr Dyfn-faith stôr Yn ymdaenu o fôr i fôr. Pan y b'o gywbodaeth Iesu, 'N llenwi'r byd i gyd o'r bron; Yn toi'r ddaear oll o ddeutu, Pawb yn syrthio ger ei fron: Gwelir tŷ Ein Duw ni, Ymhen y mynyddoedd fry. O na ddeuai'r dyddiau dedwydd, I deyrnasoedd daear lawr; Dd'od i 'nabod Crist yr Arglwydd, 'Plygu i'r Messeia mawr: Pawb yn llu, O'r un tŷ, 'N moli am angeu Calfari. Dyna'r pryd y derfydd enwau Gwag broffeswyr ar y llawr, Enwau gweigion wedi' llyngcu Gan y gwerthfawr enw mawr: Dydd sy'n d'od, Cenir clôd, I'r Iesu'n unig dan y rhôd. I'ddewon a chenhedloedd luoedd, Fel dau dân yn d'od yn nghyd; Gan ddyrchafu, moli ar gyhoedd Yr anwyl Oen, Iachawdwr byd: Yn llu mawr, Dyna'r awr Bydd hi'n nefoedd ar y llawr.John Thomas 1730-1804? Diferion y Cyssegr 1802 [Mesur: 8787.336] gwelir: O na b'ai gwybodaeth Iesu O na ddeuai'r dyddiau dedwydd |
Great is the longing that is in my heart For the days to come to an end; When the tender gospel will be Encircling the earth: The grace of my Lord A deep-wide store Spreading from sea to sea. When the knowledge of Jesus will be Filling all the world completely Roofing all the earth around, Everyone falling before him: The house of our God, Being seen, As chief of the mountains above. O that the happy days would come, For the kingdoms of earth below; To come to recognize Christ the Lord, Bow to the great Messiah: Eveyone as a host, Of the same house, Praising about the death of Calvary. That is when the empty names Of professors on the earth shall end, Empty names having been swallowed By the great, valuable name: A day is coming, Esteem will be sung, To the only Jesus under the sky. Jews and gentile hosts, Like two fires coming together; While extolling, praising publicly The dear Lamb, a world's Saviour: As a great host, That is the hour When it shall be heaven on earth below.tr. 2018 Richard B Gillion |
|