Meddyliau tragwyddol o hedd Gyrhaeddodd fy ngofid a'm cwyn; Meddyliau yn sôn am y wledd Ddarparodd fy Nuw er fy mwyn; Fe'm gwelodd mewn cadwyn yn gaeth, Yn druan ac aflan fy llun; Ond cofio am danaf a wnaeth Er mwyn Ei ogoniant Ei Hun. Er gorwedd yn hir yn fy ngwaed, A'm natur yn gyndyn a ffol, Cyfamod tragwyddol a wnaed I brynu fy mywyd yn ôl; Mae cariad yn codi ei lef Am faddeu anwiredd fy oes: A gwelaf fwriadau y nef Yn oleu yn ymyl y groes. Ni chyfyd cyfiawnder ei gledd I daro fy enaid i lawr; Mae dwyfol feddyliau o hedd Yn hawlio fy mywyd yn awr; Er gwario yn ofer fy nawn Mae digon i gwrdd â fy rhaid, Caf dynnu o gyfoeth yr Iawn, A'r Iesu Ei Hun o fy mhlaid. Mi ganaf yn ngrallod y byd Yn wyneb addewid fy Iôr, Mae heddyw i lonni fy mryd Drugaredd a gras fel y môr; Clodforaf Ei enw am hyn Wrth ddisgyn i lawr tua'r bedd, Mae'r storm yn distewi'n y glyn Yn sŵn y meddyliau o hedd.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 Tôn [8888D]: Ebbw Vale (R C Jenkins 1848-1913) |
Eternal thoughts of peace Reached my grief and my complaint; Thoughts mentioning the feast My God prepared for my sake; He saw me in chains a captive, A wretch with my unclean appearance; But remember me he did For the sake of His own glory. Although lying long in my blood, With my nature stubborn and foolish, An eternal covenant he made To buy back my life; Love is raising its cry For the forgiving of the falsehood of my age: And I see the purposes of heaven In the light beside the cross. Righteousness will not raise its sword To strike down my soul; Divine thoughts of peace are Claiming my life now; Despite spending vainly my gift There is sufficient to meet my need, I may draw from the wealth of the Atonement, With Jesus Himself on my side. I will sing in the world's trouble In the face of my Lord's promise, There is today to cheer my mind Mercy and grace like the sea; I will extol His name for this While going down to the grave, The storm is growing quiet in the vale In the sound of the thoughts of peace.tr. 2016 Richard B Gillion |
|