Mewn anial dyrys le

(Heddwch tuag at Dduw' a mwynhad o hono)
Mewn anial dyrys le,
 Heb neb cwmpeini dyn,
Y gallwn, ond cael cwmni Duw,
  Yn dawel fyw fy hun;
Fe leinw oll yn lān,
  Tu mewn, ac o tu maes,
Nid yw creadur er ei rym
  Yn helpu dim o'i ras.

Mae tywyll anial nos,
  Peryglon o bob rhyw,
Holl ofnau'r bedd, pob meddwl gwan
  Yn ffoi o'r fan bo'm Duw;
Ond tegwch dwyfol clir,
  A chariad pur a hedd,
Gaiff fod yn wleddoedd pur didrai,
  I'r rhai sy'n gwel'd ei wedd.

Y fan b'ost ti, fy Nuw,
  Anfarwol fywyd sy
Yn tarddu, megys dŵr o'r graig,
  I'r làn i'r nefoedd fry;
Rhyw wawr ddysglaerwen sydd,
  Yn t'w'nu o hono Ef,
Yn arwain trwy bob ffos a phant,
  Holl ffyddlon blant y nef.

Ffarwel, chwi haul a lloer,
  Ffarwel, chwi sêr y ne';
Mae presenoldeb pur fy Nuw
  Yn well yn llanw'r lle:
Rhyw faith dragwyddol ddydd -
  Goleuni sydd yn fwy,
Yw'r hwn sy'n dod oddi wrth ei wedd,
  Na'u holl ddisgleirdeb hwy.
neb cwmpeini :: gwmni neb rhyw
o tu maes :: o'r tu faes

William Williams 1717-91

Tonau [MBD 6686D]:
    Aberhonddu (<1875)
    Eden (John Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)
    Pererin (alaw Gymraeg)

gwelir: Mae tywyll anial nos

(Peace towards God and the enjoyment from it)
In a troublesome desert place,
 With no human company,
I would be able, having only the company of God,
  Quietly to live by myself;
He fills all completely,
  Inside, and on the outside,
A creature does not, despite his strength
  Help his grace at all.

The dark desert night,
  Dangers of every kind,
All the fears of the grave, every weak thought,
  Flee from the place wherever my God is:
But clear, divine fairness,
  And pure love and peace,
Can be in pure, inexhaustible feasts,
  For those who are beholding his countenance.

The place thou art, my God,
  Immortal life he
Springing, like water from the rock,
  To the shore to the heavens above;
Some shining dawn there is,
  Gleaming from Him,
Leading through every ditch and hollow,
  All the faithful children of heaven.

Farewell, ye sun and moon,
  Farewell, ye stars of heaven;
The pure presence of my God is
  Better filling the place:
Some long eternal day -
  Light that is greater,
Is that which comes from his face,
  Than all their brightness.
::
::

tr. 2010 Richard B Gillion

In lonely desert place
Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889
The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~