Mewn hedd fy enaid gorphwys

(Ymddiried i Ragluniaeth)
Mewn hedd fy enaid gorphwys,
  Yn dawel nos a dydd,
'R hwn sy'n dy borthi'n oestad,
  Yn agos atad sydd:
Hyd yma'r hwn a'm daliodd,
  Byth ni ddiffygia ef;
Bydd foddlon i lywodraeth
  Rhagluniaeth ddoeth y nef.

Creawdwr mawr y nefoedd
  Y tir a'r moroedd maith,
Yr hwn ni all gyfnewid,
  Na dweyd anwiredd chwaith;
Fe ddyry fara imi,
  A dwfr yn wir ddiwall,
A phob peth angenrheidiol,
  A buddiol yn ddiball.

Mae fe'n dilladu'n gywrain,
  Y cigfrain mawr eu chwant;
Gan hyny, a fydd iddo
  Ef, byth, anghofio'i blant?
Mae fe'n dilladu'r llysiau,
  A gwellt y maes
      heb ri',
A all y saint anghredu
  Na wrendy ef eu cri?

Efe a wnaeth ein defnydd,
  Ac awdwr bywyd yw,
Yr hwn sydd werthfawrocach
  Na'r byd a'i berlau gwiw;
A gwallt ein pen, bob blewyn,
  Rhag syrthio'r un ar goll,
Gan Iesu'n ddirgeledig,
  Sydd gyfrifedig oll.

Am hyny, pa'm y gofalwn,
  Am bethau gwael y byd,
Nad ydynt ond oferedd,
  A gwagedd ffol i gyd?
Fe ŵyr ein Harglwydd tirion
  Am ein hangenion maith,
Rhydd ini'r hyn fo'n eisiau,
  Tra par'o
      dyddiau'n taith.

Ein gofal penaf, beunydd,
  Tra fyddom dan y nef,
Yw ceisio'r deyrnas nefol,
  A'i bur gyfiawnder ef;
A'n dwyn i'r llawn drigfanau
  Lle na bydd eisiau'n bod,
Ond seinio, yn oestadol,
  I'r Oen dragwyddol glod.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850
Gardd Eifion 1841

[Mesur: 7676D]

(Trusting to Providence)
In peace, my soul, rest,
  Quietly night and day,
He who feeds thee constantly,
  Is close to thee:
He who has held thee thus far,
  Never shall he fail;
Be content for the wise providence
  Of heaven to govern.

The great Creator of the heavens,
  The land and the vast seas,
He who cannot alter,
  Nor say any untruth either;
He shall give bread to me,
  And water truly satisfying,
And everything necessary,
  And beneficial unfailingly.

He is clothing elegantly,
  The carrion crows of great desire;
Therefore, shall He
  Ever forget his children?
He is dressing the herbs,
  And the grass of the field
      without number,
Can he forget the saints
  Nor listen to their cry?

He made our substance,
  And the author of life he is,
He who is more precious
  Than the world and its excellent pearls;
And the hair of our head, every whisker,
  Lest even one falls missing,
By Jesus unnoticed,
  Are all counted.

Therefore, why should I care,
  About the base things of the world,
That are nothing but vanity,
  And foolish emptiness altogether?
Our gentle Lord knows
  About our vast needs,
He will give to us that which we need,
  While ever our days
      of our journey endure.

Our chief care, daily,
  While ever we are under heaven,
Is to seek the heavenly kingdom,
  And his pure righteousness;
And take us to the full dwellings
  Where there is no need,
But sounding, continually,
  To the Lamb eternal acclaim.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~