Mewn ing bu'r addfwyn Oen Heb gorlan drosof fi; A chlywaf sŵn Ei chwerw boen Yng nghreigiau Calfari. Fe ddringodd tua'r goes, A'i ffordd yn ddrain i gyd; Ac nid oes neb a draetha'i oes Dan bwys pechodau'r byd. Yr oedd y storm yn gref, A'r Bryn yn ddu o fraw; A Bugail mawr corlannau'r nef Yn roi Ei wyneb draw. Yr Oen tragwyddol wyn Yn unig heb y praidd, Adawyd ar lechweddau'r Bryn Yn sŵn rhuadau'r blaidd. O'i aberth mawr Ei Hun Maddeuant llawn a gaed; A nef a daear ddaw yn un Yn nwyfol rin Ei waed. Mi glywaf dyrfa fawr Yn llawn o ddedwydd hoen, Ar aur delynnau'n canu'n awr Mai teilwng ydyw'r Oen.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: MB 6686] |
In anguish was the gentle Lamb Without a fold for me; And I hear the sound of His bitter pain In the rocks of Calvary. He climbed towards the cross, And his road all thorns; And no-one can expound his age Under the weight of the world's sins. The storm was strong, And the Hill black with terror; And the great Shepherd of heaven's folds Turning His face yonder. The eternal white Lamb Alone without the flock, Was left on the slopes of the Hill In the sound of the roars of the wolf. From His own great sacrifice Full forgiveness is got; And heaven and earth as one In the divine merit of His blood. I hear a great throng Full of happy joy, On golden harps singing now That worthy is the Lamb.tr. 2018 Richard B Gillion |
|