Mi a ddarfyddaf mwy
Wel mi ddarfyddaf mwy

(Deisyfiad enaid llwythog am brofi cariad Crist)
1,2,3,(4,5).
Mi a ddarfyddaf mwy
  Yn lân â haeddiant dyn,
Ni chym'rir iawn
    ger bron y Tad,
  Ond dwyfol waed ei hun:
Gofynion nef sydd faith,
  Can's maent yn berffaith lawn,
Ni thrŷ cyfiawnder byth yn ol
  Heb ryw anfeidrol iawn.

Dy glwyfau yw fy rhan,
  Fy nhirion Iesu da,
Y rhai'n yw nerth fy enaid gwan,
  Y rhai'n a'm llwyr iacha;
Er saled yw fy ngwedd,
  Er tlotted wyf yn awr,
Fy llenwi gaf
    â llawnder Duw
  A'm gweled fel y wawr.

O Iesu'r meddyg da
  Iachâ fy enaid caeth,
A sicr seilia fi ar y graig
  Uwchlaw y ddraig a'i saeth;
Am ddiangc 'r wyf yn nes
  I'th fynwes di fy Nuw,
O llanw fi yn yr anial wlad
  A'th gariad tra fwi' byw.

Bydd i mi'n dirion ffrind,
  'Rho im' gael myn'd yn rhydd;
Ni's gallaf aros yma'n hwy,
  Fy nglwyfau yn fwy fwy sydd:
Ond llefain wnâf hyd fêdd,
  Am hyfryd hêdd fy Nuw;
O llanw fi yn yr anial whlad
  A'th gariad tra fwi' byw.

N'ad i mi ofni mwy,
  Fyn'd trwy'r anialwch maith,
Er gwaetha'r lloedd sydd îs y nen,
  Dwg fi i ben fy nhaith,
Cysur 'nghalon wan,
  A sypiau'r Gannaan wiw,
O llanw fi yn yr anial whlad
  A'th gariad tra fwi' byw.

            - - - - -
(Penderfyniad y Cristion)
Wel, mi ddarfyddaf mwy,
  Yn lân a haeddiant dyn;
Ni chym'rir iawn
    o flaen fy Nhad,
  Ond dwyfol waed ei hun:
Gofynion nef sydd fwy,
  A'u taliad hwy mor ddrud,
Na's tâl mynyddau'r ddaear hon
  Pe'n berlau o'r bron i gyd.

Y fan b'ost ti fy Nuw,
  Anfarwol fywyd sy;
Yn tarddu megys dwr o'r graig,
  I'r làn i'r nefoedd fry:
Rhyw wawr ddysgleirwen sydd,
  Yn tywynu o hono ef,
Yn arwain trwy bob ffos a nant,
  Holl ffyddlon blant y nef.

Mae'r deillion yma'n gwel'd,
  A'r cloffion hefyd sydd
Wedi cael hollol lwyr iachâd,
  Yn llamu â'u traed yn rhydd:
Mae rhai sy â ffiaidd friw
  Uwch meddyg i'w iachâu;
Yn cael wrth brofi'r bywiol ddwr
  Eu gwella a'u glanhau.

Minau ffieiddiaf un
  O'r pererinion gwan;
Ond cael fy ngolchi oddiwrth fy mai,
  Fyth dringo wna'i i'r lan:
A dwyfol nefol loes,
  Cystuddiau'r groes a'i briw,
A'm nertha ryn'd o'r byd
    a'i wae,
  I'r man lle mae fy Nuw.

Os gelynion ddaw i'm cwrdd
  A rhyw ddaearol swyn,
Mi 'drycha'r aberth
    ar y pren,
  Ddyoddefodd er fy mwyn:
Fe ddiffodd cariad pur
  Fu ar hoelion dur bob ple
Sy gan y byd, y cnawd, a chwant,
  I'm denu o ffordd y ne'.

            - - - - -

Wel, mi ddarfyddaf mwy
  Yn lân â haeddiant dyn;
Ni chym'rir lawn
    o flaen fy Nhad
  Ond dwyfol waed ei hun.

Gofynion nef sydd fwy,
  A'u taliad hwy mor ddrud,
Nas tâl mynyddau'r ddaear hon,
  Pe'n berlau o'r bron i gyd.

O'r afon loyw hon
  Tardd cysur o bob rhyw;
Mil rasusau hyfryd, pur,
  Fel blodau clir eu lliw.

Y ddwyfol, nefol, loes,
  Cystuddiau'r groes a'i briw,
A'm nertha i fyn'd
    o'r byd a'i wae
  I'r man lle mae fy Nuw.
William Williams 1717-91

Tôn [MBD 6686D]: Lonsdale (<1829)

Tonau [MB 6686]:
St Andrew (Joseph Barnby 1838-96)
St Michael (William Crotch 1775-1847)

gwelir:
Dy glwyfau yw fy rhan
Mi brofais Dduw yn dda
O Iesu'r meddyg da

(Petition of a burdened soul to experience the love of Christ)
 
I will perish henceforth
  Completely with human merit,
No satisfaction will be taken
    before the Father,
  But his own divine blood:
The requirements of heaven are great,
  For they are perfectly full,
Righteousness will never turn back
  Without some immeasurable satisfaction.

Thy wounds are my part,
  My tender, good Jesus,
They are the strength of my weak soul,
  It is they which heal me completely;
Despite the illness of my condition,
  Despite my being so poor now,
I will get my filling
    with the fullness of God
  And my seeing like the dawn.

O Jesus the good physician
  Heal my captive soul,
And firmly establish me on the rock
  Above the dragon and his arrow;
I would escape next
  To thy breast my God,
O flood me in the desert land
  With thy love while I live.

Be to me a tender friend,
  Grant me to get to go free;
That I may not stay here any longer,
  My wounds are more and more:
But cry I shall until the grave,
  For the delightful peace of my God;
O flood me in the desert land
  With thy love while I live.

Do not let me fear any more,
  Going through the vast desert,
Despite the hosts that are under the sky,
  Bring me to my journey's end,
Comfort my weak heart,
  With the clusters of worthy Canaan,
O flood me in the desert land
  With thy love while I live.

                - - - - -
(The Decision of the Christian)
See, I will perish henceforth,
  Completely with human merit;
No satisfaction will be taken
      before my Father,
  But his own divine blood:
The requirements of heaven are greater,
  And their payment so costly,
The mountains of this earth would not pay
  If they were all pearls completely.

The place thou wast my God,
  Immortal life is;
Springin like water from the rock,
  Up to heaven above:
There is some brightly radiant dawn,
  Shining from it,
Leading through every ditch and stream,
  All the faithful children of heaven.

The blind here are seeing,
  And the lame also are
Having got completely total healing,
  Leaping with their feet free:
Those with a terrible wound
  Above a physician to heal it;
Are getting, on tasting the living water,
  Healed and cleansed.

I also a detestable one
  Of the weak pilgrims;
But get washed from my fault,
  Forever climb I shall up:
And divine, heavenly anguish,
  Afflictions of the cross and its wound,
Shall strengthen me to go from the world
    and its woe,
  To the place where my God is.

If enemies come to meet me
  With some earthly charm,
I shall look at the sacrifice
    on the tree,
  Who suffered for my sake:
Extinguish, did pure love
  Who was on steel nails, every plea
Which the world, the flesh, and lust has,
  To attract me from the way to heaven.

               - - - - -

See, I will perish henceforth,
  Completely with human merit;
No satisfaction will be taken
      before my Father,
  But his own divine blood.

The requirements of heaven are greater,
  And their payment so costly,
The mountains of this earth would not pay
  If they were all pearls completely.

From this bright river
  Issues comfort of every kind;
A thousand delightful, pure graces,
  Like flowers of bright colour.

The divine, heavenly anguish,
  Affliction of the cross and its wound,
Shall strengthen me to go
    from the world and its woe
  To the place where my God is.
tr. 2009,16 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~