Mi a ddaethum i ddyffryn bendithion fy Nuw, A'r Iesu sydd yma yn rhoi; Mae ei Ysbryd yn puro fy nghalon trwy'r gwaed, Gyr ei gariad fy ofnau i ffoi. O deuwch i ddyffryn bendithion fy Nuw, Mae' Iesu'n eich galw, O dewch, A derbyniwch ef, credwch, cyffeswch, Holl gyfoeth ei gariad a gewch. Mae tangnefedd yn nyffryn bendithion fy Nuw, Cyflawnder o hedd yma sydd; Mae gorphwysdra i'r enaid lluddedig a gwyw, A gorfoledd i'r galon sy'n brudd. Y mae cariad yn nyffryn bendithion fy Nuw, Na phrofwyd gan neb ond y saint; Cael cymdeithas yr Iesu, mor felys iawn yw, Mor ehelaeth yw'n cyfoeth a'n braint. Y mae anthem yn nyffryn bendithion fy Nuw, Na chyrhaedd angylion mo'i chainc; Cawn yn beraidd gydganu mai "Teilwng yw'r Oen," Yn dragywydd o amgylch ei fainc.efel. John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77 Swn Y Juwbili 1876 |
I have come to the valley of the blessings of my God, Which Jesus is there giving; His Spirit is purifying my heart through the blood, His love drives my fears to flee. O come to the valley of the blessings of my God, Jesus is calling you, O come, And receive him, believe, confess, All the wealth of his love you will get. There is peace in the valley of the blessings of my God, The fulness of peace here there is; There is rest for the soul weary and withered, And rejoicing for the heart that is sad. There is love in the valley of the blessings of my God, Not experienced by anyone but the saints; To get fellowship with Jesus, how very sweet it is, How broad is our wealth and our privilege. There is an anthem in the valley of the blessings of my God, That the strain of the angels does not reach; We may sweetly chorus that "Worthy is the Lamb," Eternally around his throne.tr. 2017 Richard B Gillion |
|