Mi āf at borth y nef

(Gorsedd Gras)
  Mi āf at borth y nef,
    Am fendith fwya'n bod,
  Mae'r Brenin mawr ei hun
    Yn ceisio genyf dd'od;
Mawr eisieu cael sydd arnaf fi,
Ac eisieu rhoi ar Iesu sy'.

  Dewch, bechaduriaid, dewch,
    Yn filoedd myrdd diri',
  At orsedd freiniol nef,
    Mae croeso 'nawr i chwi:
Ar annghrediniaeth na wrandewch,
'Rhwn bia'r wledd sy'n d'wedyd, Dewch.
Joseph Harris (Gomer) 1773-1825

Tonau [6666.88]:
Beverley (alaw Seisnig)
Carmel/Tyndal (Thomas Tallis 1510-85)
Claudia (alaw Gymreig)
Eagle Street (<1811)
Normandy (alaw Seisnig)
Treharris (T D Edwards)

gwelir:
  Dewch bechaduriaid dewch (Yn lluoedd ...)

(The Throne of Grace)
  I will go to the portal of heaven,
    For the greatest blessing there is,
  The great King himself
    Is requesting me to come;
A great want to get I have,
And a want to put on Jesus it is.

  Come, sinners, come,
    As an unnumbered myriad of thousands,
  To the royal throne of heaven,
    There is a welcome now for you:
To unbelief listen ye not,
He whose feast it is says, Come ye!
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~