Mi âf dan gânu tua'r wlad Bwrcaswyd im' i fyw, Gan adael byth yn mhell ar ol Gystuddiau o bob rhyw. Mae'r saint yn dianc at eu Duw Yn filoedd o fy mlaen; A mi'n amddifad yma'n byw Yn nghanol dŵr a thân. O! nertha finau i gadw 'mlaen, Heb wyro ar un llaw, Nes i mi gyrhaedd fry i byrth Caersalem newydd draw. Mi bwysaf, yn yr anial maith, Ar fy Anwylyd cu; Cyrhaeddaf felly ben fy nhaith, Er cwrdd gelynion lu.William Williams 1717-91 Tôn [MC 8686]: St Anne's (William Croft 1677-1727) gwelir: Ni throf fy wyneb byth yn ol |
I will go singing towards the land Purposed for me to live in, Leaving forever far behind Afflictions of every kind. The saints are escaping to their God In thousands before me; And I defenceless here living In the midst of water and fire. Oh, strengthe me too to keep forwards, Without veering on either hand, Until I arrive above to the portals Of the new Jerusalem yonder. I will lean, in the vast desert, On my dear Beloved; I will arrive thus at the end of my journey, Despite meeting a host of enemies.tr. 2015 Richard B Gillion |
|