1,2,3,4,5; 1,2,(6). Mi ganaf tra fo anadl O fewn i'r ffroenau hyn, Am gariad yn dioddef Ar ben Calfaria fryn; Am goron ddrain blethedig, Am hoelion garwa'u rhyw - I gannu f'enaid euog Fel eira gwynna'i liw. Fe rwygwyd muriau cedyrn, Fe dorrwyd dorau pres, Oedd rhyngom ni a'r bywydd Mae'r bywyd heddiw'n nes; Palmantwyd yr holl lwybrau, Mae'r pyrth o led y pen, O ddyfnder dinas distryw I eitha'r nefoedd wen. Mae'r gelynion oll mewn ofn, Ac ofn iddynt sy'; Cwymp arnynt ryw ddiwrnod Ddigofaint nefoedd fry: Mae'n Iesu mawr yn dyfod O Edom yn ei waed, Fe syrth ei holl elynion Fel Dagon dan ei draed. Wel, de'wch y'm1aen yn ëofn, Mae'r Brenin gyda ni; Mawr yw ei nerth a'i allu, Aneirif yw ei lu: Rhai ffyddlon etholedig, Megis seraphiaid nef, A gollant waed eu calon O's achos drosto ef. Fydd neb yn llesg neu'n egwan 'Mhlith ei finteoedd maith, Ond cadarn megis Dafydd, Gwna'r llesgaf un, a'r llaith: Ni saif o'n blaen ni elyn Er ymladd tra fo'm byw; 'Does arfyn fyth a lwydda Yn erbyn Sïon Duw. Fe bery trugareddau'r Cyfamod gwerthfawr drud, Pan ddarfo'r greadigaeth Ddiderfyn oll i gyd; Ni bydd ond dechrau gweled Daioni mawr y ne' Pan gollo haul a lleuad A'r holl blanedau'u lle. - - - - - Mi ganaf tra b'o anadl O fewn y ffroenau hyn, Am gariad Iesu'n dyoddef Ar ben Calfaria fryn; Am goron ddrain blethedig A'r hoelion garwa'u rhyw; A'r gwaed a gàna'r euog Fel eira'n wyn ei liw. Y clod, y nerth, a'r enw, Y mawl, y parch, a'r bri, I'r Drindod f'o mewn Undod, A'r Undod pur yn Dri: Sain mawl ehedo allan, Mawl am ei gariad ef, Drwy ëang anfesurol Derfynau dae'r a nef.William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Angylion doent yn gysson Mae'r ffynnon yn agored Ni fuasai gennyf obaith Pa le dechreuaf ganu? Y clôd y nerth a'r enw |
I will sing while there is breath Within these nostril, About love suffering On top of Calvary hill; About a crown of plaited thorns, About nails of a rough kind - To bleach my guilty soul Like snow of the whitest colour. He ruptured secure walls, He broke brass doors, Which were between us and the life The life today is near; All the paths were paved, The portals are wide open, From the depth of the city of destruction To the extremity of the bright heavens. The enemies are all in fear, And there is fear of them; There will fall against them some day The wrath of heaven above: Great Jesus is coming From Edom in his blood, All his enemies shall fall Like Dagon under his feet. See, come forward in fear, The King is with us; Great is his strength and his power, Innumerable is his host: Some faithful elect, Like the seraphim of heaven, Who will shed their heart's blood If there is a cause for him. None shall be feeble or weak Amongst his vast cohorts, But strong like David, He will make the weakest, and the timid: No enemy shall stand before him Despite fighting while ever they live; There is no weapon that shall ever succeed Against the Zion of God. Endure shall the mercies of the Precious, costly covenant, When all the endless creation Vanishes altogether; It shall be only the beginning of seeing The great goodness of heaven When the sun and moon and all The planets lose their place. - - - - - I will sing while there is breath Within these nostrils, About the love of Jesus suffering On the top of Calvary hill; About a crown of plaited thorns And the nails of the roughest kind; And the blood which bleaches the guilty Like snow white in colour. The acclaim, the strength, and the name, The praise, the reverence, and the fame, To the Trinity which is in Unity, And the pure Unity in Three: The sound of praise flying out, Praise for his love, Through wide, immeasurable Extents of earth and heaven.tr. 2014 Richard B Gillion |
|