Mi ganaf am drefn i'm gwaredu Ogoniant i enw fy Nuw, Yng nghariad anfeidrol yr Iesu Mae gobaith i minnau gael byw; I'w fynwes yn ôl y dihangaf, Ni chollir pwy bynnag a gred, Mae'n disgwyl yn dyner am danaf A'i freichiau tragwyddol ar led. Yng nghanol pryderon a thrallod Siomedig yw hanes y byd, Mae hen gyfamodau'n ymddatod, Ac angau'n eu chwalu o hyd; Ond dyfnder trueni nid ofnaf, Mae Ceidwad a wrendy fy llef; A'r breichiau tragwyddol o danaf Mor gadarn a gorsedd y nef. Ysgydwed sylfeini'r mynyddoedd, A llamed y bryniau i'r môr, Diffodded yr haul yn y nefoedd, Ni siglir addewid fy Iôr, Uwchlaw y rhyferthwy'n ddihangol Caf yno anadlu yn rhydd; O danaf, y breichiau tragwyddol Yn cynnal fy enaid a fydd.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 9898D] |
I will sing about a plan to save me Glory to the name of my God, In the infinite love of Jesus There is hope for me to get to live; To his bosom after I escape, Not to be lost whatever one believes, He is waiting tenderly for me And his eternal arms are open wide. In the midst of worries and troubles Disappointing is the story of the world, Old covenants are unravelling, And death is destroying them always; But the depth of misery I shall not fear, The Saviour will listen to my cry; With the eternal arms underneath me As firm as the throne of heaven. Let the foundations of the mountains shake, And let the hills leap into the sea, Let the sun be extinguished in the heavens, The promise of my Lord is not to be moved, Above the torrent escaped There I will get to breathe freely; Underneath me, the eternal arms Upholding my soul shall be.tr. 2015 Richard B Gillion |
|