Mi ganaf am dy gariad, Mi ganaf am dy waith, Mi ganaf yn drag'wyddol Am iachawdwriaeth faith; Y cariad mawr annhraethol A roddodd imi le, 'Does arall dâl ei garu Yn unig ond efe. Fe ddygodd ef fy nghalon, Rhoes ernes oddi fry, Anfeidrol yw ei gariad, Pa beth oedd ynof fi! Ac etto mae'n fy nghanlyn A'i ragluniaethau glân; Mae'r cyfan yn cydweithio I'm tỳnu yn y bla'n. O'i gariad rhad fe'm tỳnodd I o'r tywyllch dû, A'm caru mae hyd yma Er gwaetha' uffern lu; Fe'm carodd i yn gynta' Cyn imi'i garu 'rio'd, A'i gariad sydd yn para, I'w enw byth bo'r clod.Swp o Ffigys 1825
Tonau [7676D]: |
I will sing about thy thy love, I will sing about thy work, I will sing eternally About vast salvation; The great, inexpressible love Which gave to me a place, There is no other who keeps loving But he alone. He drew my heart, He gave an earnest from above, Immeasurable is his love, Whatever was in me! And yet he is following me With his holy providences; The whole is working together To draw me onwards. Of his free love he drew me From the black darkness, And loved me thus far Despite hell's host; He loved me first Before I ever loved, And it is his love that will endure, To his name forever be the praise.tr. 2016 Richard B Gillion |
|