Mi glywaf dyner lais yn canu, Peraidd odlau hyfryd gan; Y gan a ddysga Duw yw hono:- "Mae yn llawer gwell yn mlaen." Y dydd a'r nos mae'n para i ganu, Un yw nodau'r hyfryd gan; A thyr ei hodlau ar fy nghalon:- "Mae yn llawer gwell yn mlaen." Pan wyf yn eistedd mewn unigedd, Wrth fy hunan ar wahan, Ei seiniau hedant gyda'r awel:- "Mae yn llawer gwell yn mlaen." O ddwfn iseldir glyn marwolaeth, Cartre'r galar, nid y gan, Fy enaid, clyw - trwy'r tew gysgodion:- "Mae yn llawer gwell yn mlaen." 'Rwy'n flin! rhowch gyfrif beth sy'n eto Ar y ffordd i Salem lan; Na, na nid cyfrif, ond ymddiried:- "Mae yn llawer gwell yn mlaen."efel. John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77 Swn y Juwbili 1876
Tôn [9797(7)]: d_r|mfmrdr|ms |
I hear a tender voice singing, Sweet verses of delightful song; The song that God teaches is this:- "It is much better ahead." By day and night it keeps on singing, The same are the notes of the delightful song; An its verses turn upon my heart:- "It is much better ahead." When I am sitting in loneliness, By myself apart, Its sounds fly with the breeze:- "It is much better ahead." From the deep depression of the vale of death, The home of mourning, not the song, My soul, hear - through the thick shadows:- "It is much better ahead." I am exhausted! give ye an account of what is yet On the road to holy Salem; No, no, not an account, but trust:- "It is much better ahead."tr. 2017 Richard B Gillion |
|