Mi wela'r ffordd yn awr, O lygredd mawr y byd I fywiol oes y nefol hedd, A'm gwedd yn lān i gyd. Y ffordd yw Crist, a'i ddawn, A'r Iawn ar Galfari; Mae drws agored trwyddo Ef I mewn i'r nef i ni. Diolchaf am yr Oen, A'i boen, i'm gwneud yn bur, A'r iachawdwriaeth fawr ei bri, I'm codi o bob cur; Mae'r Iesu'n agos iawn Yn nyfnder llawn y lli; Mae drws agord trwyddo Ef I mewn i'r nef i ni. 'Rwy'n gweld yn awr, drwy ffydd, Y nefol ddydd ar ddod, Pryd y cyrhaeddaf Ganaan dir I ganu'n glir ei glod; Daw concwest yn y man I'm rhan o Galfari; Mae drws agored trwyddo Ef I mewn i'r nef i ni.
Tonau [MBD 6686D]: |
I see the road now, From the great corruption of the world To the lively age of heavenly peace, Which is before me all holy. The road is Christ, and his power, And the Atonement on Calvary; The door is opened through Him Inside into heaven for us. I will give thanks for the Lamb, And his pain, to make me pure, And the great salvation of his honour, To raise me from every affliction; Jesus is very near In the full depth of the flood; The door is opened through Him Inside into heaven for us. I am now seeing through faith, The heavenly day to come, When I shall arrive in Canaan's land To sing clearly his praise; The victory is coming soon For me from Calvary; The door is opened through Him Inside into heaven for us. tr. 2009 Richard B Gillion |
|