Mi welaf afon bur O ddyfroedd disglair iawn; Maent fel y grisial gloyw clir, Foreddydd a phrynhawn. Mae hon yn tarddu 'maes O dan orseddfainc Duw; Hi ganna fel yr eira gwyn Yr Ethiop dua'i liw. Mae mil o filoedd maith Ar ben eu taith yn llon, Yn moli'r Oen yng ngwlad yr hedd Am ryfedd rinwedd hon. Rhed ffrydiau'r afon lân Yn mlaen trwy'r anial mawr; 'Does dim a ddichon rwystro'i thro Nes llenwo wyneb llawr. Daw coelgrefyddau'r byd I lawr ryw bryd o'r bron, A myrdd i waeddi, "Maddeu'n rhad!" Trwy ryfedd rinwedd hon. Nid oes a all ei rhwystro hi llenwo :: llenwi
Tonau [MB 6686]: |
I see a pure river Of very shining waters; They are like the clear shining crystal; Morning and afternoon. This springs out From below the throne of God; It washes as the white snow The Ethiopian of blackest colour. There are a thousand thousand vast Cheerful at the end of their journey, Praising the Lamb in the land of peace For this wonderful merit. Streams of the holy river will run On through the great desert; There is nothing sufficient to obstruct its course Until it fill the face of the earth. The false religions of the word will come Down some time completely, And a myriad to shout, "Free forgiveness!" Through this wonderful merit. There is nothing which can obstruct it :: tr. 2009,10 Richard B Gillion |
|