Mi welaf gyrrau'r hyfryd wlad, Trwy darth a niwl y glyn; A Haul Cyfiawnder yn ei nerth Yn twynnu ar bob bryn. Mae afon bur o ddyfroedd byw, Fel grisial gloyw clir, Yn dod o orsedd Duw a'r Oen, I ddwfwrhau ei thir. Ac ar ei glannau fe dyf Pren Y Bywyd - dwyfol hardd! Anfeidrol well na hwnnw oedd Yn tyfu yn Eden ardd. [Ac ar ei glannau tyfa Pren Y Bywyd - dwyfol hardd! Ac ar ei ffrwythau bywiol cawn Oll wledda'n ddiwahardd.] Ac ar ei ffrwythau nefol, pur, Y glwedda nef y nef I ddragwyddoldeb, heb ddim trai - Mae digon arno Ef. Yr Oen a laddwyd ydyw'r Haul, Ei ras yw'r afon fyw; A Phren y Bywyd mawr ei rin, Efe ei Hunan yw! Pob melldith, mwyach, byth ni bydd, Na thrallod, gwae, na phoen; Nac angeu chwaith ni ddaw i wlad Gorseddfaingc Duw a'r Oen. Awn, awn dan ganu tua'r wladd - Awn, a meddiannwn hi; Fe'i rhoddwyd mewn addewid rad, Mae'r ffordd yn rhydd i ni. twynnu :: tw'nu ei glannau fe dyf :: ei glannau hi tyf William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [MC 8686]:
Tôn [MCD 8686D]: Yr Hyfryd Wlad |
I see the borders of the lovely land, Through the mist and fog of the vale; And the Sun of Righteousness in his strength Shining on every hill. There is a pure river of living water, Like clear, radiant crystal, Coming from the throne of God and the Lamb, To water the land. And on its banks there grows the Tree Of Life - divine beauty! Immeasurably better than that which was Growing in the garden of Eden. [And on its banks there grows the Tree Of Life - divine beauty! And on its lively fruits we may all Get to feast without exclusion.] And on its pure, heavenly fruits, The heaven of heaven feasts To eternity, without any waning - There is sufficient on Him. The Lamb who was slain is the Sun, His grace is the living river; And the Tree of Life of great virtue Is He Himself! Every curse, henceforth, forever shall not, Nor affliction, woe, nor distress; Nor death either come to the land Of the Throne of God and the Lamb. Let us go, go while singing towards the land - Let us go, and let us possess it; It was given in a free promise, The road is open to us. :: :: tr. 2010 Richard B Gillion |
|